Daearyddiaeth - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Daearyddiaeth Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r cymhwyster hwn yn annog dysgwyr i ddefnyddio gwybodaeth, theori a sgiliau daearyddol i’r byd o’u cwmpas, a bydd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o bobl, llefydd ac amgylcheddau’r byd yn yr 21ain ganrif. Ffocws y fanyleb yw datblygu brwdfrydedd ar gyfer a chymhwyster mewn daearyddiaeth trwy ddefnyddio cyd-destunau byd go iawn cyfoes, gan ddefnyddio daearyddiaeth ffisegol a dynol, archwilio rhyngweithio rhwng pobl a’r amgylchedd ac annog datblygiad o waith maes ar lefel leol. Efallai y bydd yn bosibl i ddysgwyr ddilyn y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Trafodir y ddwy uned ganlynol:

Uned 1: Tirweddau Newidiol:

Arholiad ysgrifenedig 2 awr Adran A: Tirweddau Arfordirol neu Dirweddau Rhewlifedig Adran B: Peryglon Tectonig

Uned 2: Llefydd Newidiol:

Arholiad ysgrifenedig 1 ½ awr Adran A: Llefydd newidiol
Adran B: Ymchwiliad gwaith maes i Ddaearyddiaeth Ffisegol a Dynol

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B Gofynion Eraill: B mewn TGAU Daearyddiaeth.

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F39
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Daearyddiaeth

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”

Bianca Zerbini
Astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Celf a Mathemateg ac A mewn Ffiseg

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Amaethyddiaeth
  • Astudiaethau Amgylcheddol
  • Economeg
  • Daeareg
  • Daearyddiaeth

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE