A ydych chi’n mwynhau bod yn greadigol, meddwl drosoch eich hun, trafod problemau cyfoes sy’n berthnasol i lenyddiaeth a datblygu eich syniadau mewn ysgrifen a darllen? Os felly, hwn yw’r cwrs perffaith ar eich cyfer chi!
Wedi ei lleoli yn ein campws Canol Dinas yng Nghaerdydd, bydd y rhaglen hon yn edrych ar nofelau, dramâu a barddoniaeth, gan gynnwys testun a chyd-destun, a hefyd yn gyfle i ddatblygu darllen ac ysgrifennu creadigol.
Mae’r Llwybr Carlam Lefel A Llenyddiaeth Saesneg yn cyfuno Rhaglen UG a Safon Uwch i greu cwrs astudio blwyddyn i’w ddilyn gan ddau neu dri phwnc arall, a Bagloriaeth Cymru.
Mae’r cwrs yn cynnwys y Pum modiwl canlynol:
Unedau UG
Uned 1: Rhyddiaith a Drama
Adran A: Rhyddiaith ffuglen cyn 1900
Adran B: Drama
Uned 2: Uned 2: Barddoniaeth ar ôl 1900
Unedau A2
Uned 3: Barddoniaeth cyn 1900 a barddoniaeth heb ei gweld
Uned 4: Shakespeare
Uned 5: Astudiaeth Rhyddiaith
Byddwch yn ymgymryd ag arholiadau ysgrifenedig, ynghyd ag asesiad gwaith cwrs (asesiad 2500-3500 o eiriau).
Gofynion Mynediad Pynciau Unigol
Isafbwynt Iaith Saesneg: A
Isafbwynt Llenyddiaeth Saesneg: A
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.