Economeg - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cyfuniad o ficro-economeg a macro-economeg sy’n datblygu dealltwriaeth o gysyniadau a damcaniaethau economaidd, drwy ystyried materion, problemau a sefydliadau economaidd cyfredol sy’n effeithio ar fywyd bob dydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Mae Economeg U2 yn gwrs blwyddyn a dylid ei gymryd ochr yn ochr â dau neu dri o bynciau eraill a Bagloriaeth Cymru.

Efallai y byddai'n bosibl cymryd y cwrs hwn fel myfyriwr rhan-amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio cysyniadau a damcaniaethau economaidd gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gyd-destunau ac i sylweddoli eu gwerth a'u cyfyngiadau wrth esbonio ffenomena’r byd go iawn.  Byddwch yn datblygu gwerthfawrogiad o natur gymhleth a rhyngberthynol economeg a sgiliau dadansoddol a meintiol wrth ddethol, dehongli a defnyddio data priodol o amrywiaeth o ffynonellau.

Mae yna gyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion economaidd cyfoes perthnasol i economi Cymru a dealltwriaeth o hanes economaidd diweddar Cymru gan ddefnyddio gwybodaeth hygyrch i'r cyhoedd.  Byddwch yn astudio’r rôl mae marchnadoedd yn ei chwarae a'r ffordd y mae llywodraethau yn ceisio eu rheoli.

Ar ôl astudio unedau 1 a 2 ar lefel UG, mae'r cwrs U2 yn cynnwys:

U2 Uned 3:  Ymchwilio i Ymddygiad Economaidd

Arholiad ysgrifenedig: 2 awr;  30% o’r cymhwyster 
Cwestiynau strwythuredig yn seiliedig ar gynnwys U2.  Un ymateb data gorfodol.  Yn cwmpasu'r holl gynnwys Safon Uwch. 

U2 Uned 4:  Gwerthuso Modelau a Pholisïau Economaidd

Arholiad ysgrifenedig:  2 awr 30 munud;  30% o’r cymhwyster Un traethawd ym mhob adran: 
Adran 1 - Microeconomeg 
Adran 2 - Macroeconomeg 
Adran 3 - Masnach a Datblygu. 
Yn cwmpasu'r holl gynnwys Safon Uwch.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F43
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Economeg

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Rwy'n edrych ymlaen at y cam nesaf a gwneud cais i astudio yn y brifysgol."


Michael Sung
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Rheoli Busnes
  • Economaidd
  • Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
  • TG
  • Mathemateg
  • Arolygu Meintiau

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE