Cemeg - UG

L3 Lefel 3
Rhan Amser
3 Medi 2025 — 28 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Nodau'r cymhwyster Cemeg UG hwn yw annog myfyrwyr i:

  • Ddatblygu eu diddordebau yn, a brwdfrydedd tuag at Gemeg, gan gynnwys datblygu diddordeb mewn astudiaeth bellach a gyrfaoedd mewn Cemeg
  • Gwerthfawrogi sut mae cymdeithas yn gwneud penderfyniadau ynghylch materion gwyddonol a sut mae’r gwyddorau yn cyfrannu i lwyddiant yr economi a chymdeithas
  • Datblygu ac arddangos gwell dealltwriaeth o’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o ran Sut mae Gwyddoniaeth yn Gweithio
  • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth allweddol o wahanol feysydd o Gemeg a sut maent yn berthnasol i’w gilydd

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs yn trafod dwy uned:

UNED CH1 – Rheoli a Defnyddio Newidiadau Cemegol (er mwyn gwneud pethau, cynhyrchu egni a datrys problemau amgylcheddol).

Dechreua’r uned hon gyda rhai syniadau sylfaenol pwysig ynghylch atomau a defnyddio’r cysyniad môl mewn cyfrifiadau.

Yna fe astudir y tair egwyddor allweddol sy’n llywodraethu newid cemegol:

  • Safle cydbwysedd rhwng adweithyddion a chynnyrch
  • Y newidiadau egni sy'n gysylltiedig ag adwaith cemegol
  • Y gyfradd ble bydd adweithiau yn digwydd

Yna bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu cymhwyso i broblemau pwysig ym meysydd synthesis cemegol, caffael egni a chynnal a chadw’r amgylchedd.

UNED CH2 - Priodweddau, Strwythur a Bondio

Mae’r uned hon yn edrych ar:

  • Bondio Cemegol
  • Grymoedd rhwng molecylau
  • Siapiau molecylau
  • Hydoddedd cyfansoddion mewn dŵr
  • Y Tabl Cyfnodol
  • Tueddiadau ym mhriodweddau’r elfennau
  • Cyfansoddion Organig a’u hadweithiau

Amseroedd cwrs

17:45-20:45 Dydd Mawrth

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £473.00

Ffi Arholiad : £60.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: B mewn Cemeg neu Uwch neu BB yn y Dyfarniad Dwbl

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

28 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

ASCC3E18
L3

Cymhwyster

Chemistry - AS

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Rwy'n edrych ymlaen at y cam nesaf a gwneud cais i astudio yn y brifysgol."

Michael Sung
Myfyriwr Safon Uwch

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE