Astudiaethau Busnes - UG
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r rhaglen Astudiaethau Busnes Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae Astudiaethau Busnes Safon UG yn annog dysgwyr i:
- Ddatblygu brwdfrydedd dros astudio busnes
- Gael dealltwriaeth holistaidd o fusnes mewn amrywiaeth o gyd-destunau
- Ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o sefydliadau a’u gallu i fodloni anghenion a gofynion cymdeithas
- Deall y gellir astudio ymddygiad busnes o sawl safbwynt
- Creu ymagweddau mentergar a chreadigol i gyfleoedd, problemau a materion busnes
- Bod yn ymwybodol o gyfyng-gyngor a chyfrifoldebau a wynebir gan sefydliadau a rhanddeiliaid
- Caffael amrywiaeth o sgiliau perthnasol cysylltiedig i fusnes, yn cynnwys gwneud penderfyniadau, datrys problemau, y gallu i weithio gydag eraill a gwella eich perfformiad eich hun
Bydd dau arholiad. Bydd y cyntaf yn ffocysu ar gyfleoedd busnes a’r ail bapur yn ffocysu ar swyddogaethau busnes, yn cynnwys Marchnata, Cyllid a rheoli Pobl a Gweithrediadau.
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Unigol Mathemateg: B
Addysgu ac Asesu
- Dau arholiad ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
“Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.”
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
500
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Cyfrifeg
- Astudiaethau Busnes
- Cyllid
- Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth
- Rheoli Adnoddau Dynol
- Astudiaethau Rheolaeth
- Marchnata
- Trafnidiaeth