BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol
Ynglŷn â'r cwrs
Mae ein Diploma Technegol Caergrawnt OCR yn gwrs llawn amser dros flwyddyn wedi'i ddylunio i ddysgwyr sy'n ystyried gyrfa yn y diwydiant gwyddonol yn y dyfodol. Wedi'i leoli ar ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae hon yn rhaglen alwedigaethol yn cyflwyno ystod eang o sgiliau damcaniaethol ac ymarferol i ddatblygu dealltwriaeth a gwybodaeth dysgwyr ynghylch egwyddorion gwyddonol. Gan astudio yn nosbarthiadau a gan ddefnyddio cyfleusterau pwrpasol y Coleg, gall myfyrwyr sy'n ennill gradd teilyngdod neu ragoriaeth hefyd fynd ymlaen i ymgymryd â chwrs Galwedigaethol Lefel 3 mwy arbenigol, h.y. BTEC Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, neu ymlaen i ymgymryd â Lefelau A yn y Gwyddorau.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Drwy gydol y flwyddyn, bydd dysgwyr yn astudio'r 7 uned ganlynol:
- Uned 1 Gwyddoniaeth y Byd
- Uned 2 Prosesu a Chyflwyno Data mewn Gwyddoniaeth
- Uned 4 Technegau Ymarferol mewn Gwyddoniaeth
- Uned 7 Cynhyrchu Bwyd
- Uned 8 Gwyddoniaeth Iechyd
- Uned 10 Cemeg Cynhyrchu
- Uned 15 Gwyddoniaeth Telegyfathrebu
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Mathemateg a Saesneg Iaith, Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol Mathemateg: D Saesneg Iaith, o leiaf: D Gofynion Eraill D men Gwyddoniaeth yn ogystal ag o leiaf 4 TGAU D neu uwch
Addysgu ac Asesu
- Asesiadau parhaus gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol ac arholiadau
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Diploma Cenedlaethol neu Ddiploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (yn gofyn o leiaf gradd Teilyngdod yn ogystal â TGAU mewn Mathemateg a Saesneg).
Lefelau A (yn gofyn o leiaf gradd Rhagoriaeth yn ogystal â TGAU mewn Mathemateg a Saesneg).
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu