Mae busnesau o’n cwmpas ym mhob man ac rydym yn eu hadnabod ar unwaith. Mae brandiau fel Coca Cola, Apple, Nike ac Amazon i’w gweld ledled y byd. Ond sut mae busnesau fel hyn yn gweithio? Mae'r cwrs yn amrywiol iawn a byddwch yn dysgu sgiliau cyfrifyddu, pwysigrwydd pobl i fusnes a marchnata lle mae creadigrwydd ac ymchwil yn sicrhau y bydd cynnyrch yn gwerthu.
Uned 1 - Archwilio Busnes (addysgir yn ystod Blwyddyn 1)
Byddwch yn astudio pwrpas gwahanol fusnesau a sut mae’n rhaid iddynt fod yn ddeinamig ac yn arloesol er mwyn goroesi. Mae hyn yn cynnwys archwilio sut mae busnesau wedi’u trefnu a’r amgylchedd cystadleuol y maent yn gweithredu ynddo.
Uned 2 - Datblygu Ymgyrch Farchnata (addysgir yn ystod Blwyddyn 1)
Mae marchnata yn faes deinamig sy’n ganolog i lwyddiant unrhyw fusnes. Byddwch yn ennill dealltwriaeth o sut mae ymgyrch farchnata yn cael ei datblygu ac yn archwilio gwahanol gamau o’r broses.
Uned 3- Cyllid Personol a Busnes (a addysgir ym mlwyddyn 2)
Mae cyllid personol yn cynnwys deall sut y gall rheoli eich arian helpu i atal anawsterau ariannol yn y dyfodol. Mae’r agwedd cyllid busnes yn eich cyflwyno i bwysigrwydd cyfrifyddu a’r gwahanol ffynonellau cyllid.
Uned 8 - Y Broses Recriwtio a Dewis (a addysgir ym Mlwyddyn 2)
Mae recriwtio’r bobl iawn yn hanfodol i lwyddiant busnes. Mae’n bwysig bod y prosesau a’r gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â recriwtio yn diwallu anghenion y busnes ac yn cydymffurfio â’r rheoliadau cyfredol.
Gofyniad Mynediad Unigol i’r Pwnc TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd C
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd astudio Busnes fel cwrs galwedigaethol yn rhoi sgiliau cyflogadwyedd cryf i chi ac mae nifer o’n myfyrwyr yn parhau i astudio yn y brifysgol neu symud ymlaen i swyddi prentisiaethau a swyddi rheoli hyfforddeion.