BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol
Ynglŷn â'r cwrs
Mae Diploma Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol yn gymhwyster ar gyfer dysgwyr ôl 16 sydd eisiau dal ati gyda’u haddysg gwyddoniaeth drwy ddysgu cymhwysol ac ymarferol ac sydd eisiau symud ymlaen i naill ai brifysgol neu gyflogaeth yn y sector gwyddoniaeth. Wedi’i lleoli ar ein campws yng Nghanol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn bod yn dechnegwyr labordy, gweithio mewn gwyddoniaeth fforensig, dadansoddol neu feddygol, bod yn nyrs neu baramedig neu ar gyfer dysgwyr sydd eisiau astudio gwyddoniaeth gyffredinol/gymhwysol yn y Brifysgol. Dyma gwrs dwy flynedd gyda’r cymhwyster a enillir yn cyfateb i ddwy Lefel A.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Bydd y dysgwyr yn astudio’r 6 uned orfodol ganlynol:
Egwyddorion a Defnydd o Wyddoniaeth I
- Gweithdrefnau a Thechnegau Gwyddonol Ymarferol
Sgiliau Ymchwilio Gwyddonol
- Technegau Labordy a’u Defnydd
Egwyddorion a Defnydd o Wyddoniaeth II
- Prosiect Ymchwiliol
Hefyd 2 uned ychwanegol (o bosib):
Tystiolaeth fforensig, casglu a dadansoddi
- Afiechydon a heintiau
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: CC yn y Dyfarniad Dwbl neu Deilyngdod mewn BTEC Gwyddoniaeth
Addysgu ac Asesu
- Arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yma, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus ddilyn detholiad o gyrsiau mewn Prifysgolion, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu