Bioleg Ddynol Gymhwysol - Safon A BTEC

L3 Lefel 3
Llawn Amser
4 Medi 2024 — 23 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn yn rhoi sylfaen astudio eang ar gyfer y sector gwyddor iechyd.

Mae wedi’i ddylunio i gefnogi dilyniant i addysg uwch pan gaiff ei gwblhau fel rhan o raglen astudio sy’n cynnwys Tystysgrifau Cenedlaethol BTEC neu gymwysterau Safon Uwch priodol eraill.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Dros gyfnod o ddwy flynedd byddwch yn astudio ystod o unedau sy’n cyfrannu at ystod eang o ddealltwriaeth yn ymwneud â gwyddor iechyd.

Blwyddyn 1

  • Uned 1: Egwyddorion Bioleg Ddynol Gymhwysol (arholiad)
  • Uned 2: Microbioleg a Chlefydau Heintus Ymarferol (gwaith cwrs)

Addysgu ac asesu

Asesir y cwrs drwy gyfuniad o asesiadau mewnol ac allanol.

Asesiad Mewnol

Mae unedau a asesir yn fewnol yn cynnwys 3-4 aseiniad gwaith cwrs a gwblheir yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd pob aseiniad yn ymdrin â phwnc gwahanol o fewn yr uned. Rhaid cyflwyno pob aseiniad drwy Microsoft Teams erbyn y dyddiadau cau cyhoeddedig er mwyn iddynt fod yn ddilys.

Asesiad allanol

Asesir Uned 1 drwy arholiad ysgrifenedig yng nghanol mis Ionawr Blwyddyn 1 sy’n asesu dealltwriaeth y dysgwr o fioleg ddynol gymhwysol ar draws ystod o bynciau.

Cyfleusterau

  • Profiad labordy mewn microbioleg a geneteg.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2024

Dyddiad gorffen

23 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

GECC3NF8
L3

Cymhwyster

Pearson BTEC Tystysgrif Estynedig Genedlaethol Lefel 3 mewn Bioleg Ddynol Gymhwysol

Mwy...

Fideos

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE