Mae'r cwrs hwn wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sy’n frwdfrydig dros gynnal a chadw awyrennau. Y rhaglen lawn amser, blwyddyn o hyd hon, yw eich cyflwyniad i’r diwydiant awyrennau. Byddwch yn datblygu’r sgiliau craidd a’r wybodaeth dechnegol sydd eu hangen i ddod yn osodwr awyrennau drwy gyfuniad o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, hyfforddiant ymarferol a phrofiad yn y diwydiant go iawn. Fel rhan o'r rhaglen, byddwch hefyd yn cyflawni profiad gwaith pwrpasol gyda Caerdav, gan roi mewnwelediad gwerthfawr ichi i amgylchedd awyrennau byw a’r cyfle i symud ymlaen i raglen brentisiaeth.
*Mae’r cwrs hwn yn anelu at bobl ifanc 16-18 oed yn bennaf.
Byddwch yn astudio Diploma Lefel 3 ochr yn ochr â chymhwyster mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PEO) a dau ESW, gan roi sylfaen dechnegol gadarn ichi ar gyfer gyrfa ym maes cynnal a chadw awyrennau. Trwy gydol y rhaglen, byddwch yn ymdrin ag ystod eang o bynciau peirianneg awyrennau, gan gynnwys:
Mae'r cwrs hwn wedi’i leoli yn y Ganolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod. Mae’r cyfleuster yn cynnwys ystafelloedd dosbarth arbenigol, labordai a sied awyrennau go iawn lle byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol. Cynhelir y lleoliad profiad gwaith wythnosol hwn yng nghyfleuster cynnal a chadw Caerdav, sy’n flaenllaw yn y diwydiant.
5 TGAU Gradd A* - C gan gynnwys Mathemateg A* - B (neu gyfwerth) a Saesneg A* - B NEU gymhwyster Peirianneg lefel 2 addas ar radd Anrhydedd neu uwch gyda naill ai uned Mathemateg briodol gyda gradd Anrhydedd neu uwch, neu Radd A* - B mewn TGAU Mathemateg. Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gael CDP ar gyfer y cwrs hwn, gan gynnwys esgidiau blaen caled ac oferôls ar gyfer dysgu ymarferol a throwsus gwaith du ar gyfer lleoliad gwaith.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd cwblhau pob elfen o'r cwrs hwn yn llwyddiannus a lleiafswm o 90% yn arwain at gyfweliad gyda Caerdav ar gyfer rhaglen brentisiaeth dwy flynedd.