A ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau a dealltwriaeth o Astudiaethau Ariannol? Os felly, ein Diploma Sylfaenol BTEC Lefel 3 mewn Busnes (ac Astudiaethau Ariannol), wedi’i ddilyn gan Ddiploma Estynedig BTEC mewn Busnes (ac Astudiaethau Ariannol) yw’r dewis perffaith i chi! Wedi'u lleoli ar ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd myfyrwyr yn ennill cymhwyster ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith, sy’n gyfystyr â thri chymhwyster Safon Uwch. Gan astudio yn nosbarthiadau a gan ddefnyddio cyfleusterau pwrpasol y Coleg, bydd myfyrwyr yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion gweithle go iawn.
Caiff y Diploma Sylfaen Lefel 3 ei astudio yn y flwyddyn gyntaf, ac mae’n cynnwys 6 uned:
Bydd cwblhau Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn arwain at drosglwyddo i’r Diploma Estynedig Lefel 3 yn yr ail flwyddyn, lle byddwch yn astudio 7 uned bellach, gan gynnwys Datganiadau Ariannol ar gyfer Busnesau Penodol, Cyfleoedd Buddsoddi a Chynllunio Ariannol, Hanfodion a Pholisïau Yswiriant a Hanfodion Cyfreithiol a Moeseg mewn Gwasanaethau Ariannol.
Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cwblhau’r Fagloriaeth Cymru uwch.
Career Ready
Ar ôl i chi ddewis eich cwrs, rydym yn argymell i chi gofrestru ar y rhaglen Career Ready. Mae'r rhaglen hon yn rhedeg cyfochr â'ch cwrs i'ch rhoi ar daith drawsffurfiol, a bydd yn eich helpu i fynd i fyd gwaith neu'r brifysgol yn hyderus, gyda sgiliau a rhwydweithiau proffesiynol, sydd eu hangen i gyflawni eich potensial.
Byddwn yn cynnig mentor i chi, ymweliadau â gweithle, dosbarthiadau meistr a phrofiadau yn seiliedig ar waith, all gynnwys interniaeth. Bydd pob un ohonynt yn adeiladu ar eich astudiaethau, i'ch helpu chi i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i lwyddo yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol.
5 TGAU Graddau A* - C gan gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) neu gymhwyster Busnes Lefel 2 gyda phroffil Teilyngdod. Bydd angen sgôr IELTS o 6.5 neu uwch ar fyfyrwyr rhyngwladol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.