Rhagori mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid

L2 Lefel 2
16 Gorffennaf 2025 — 16 Gorffennaf 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Trawsnewidiwch eich sgiliau Gwasanaethau Cwsmeriaid a datblygwch eich gyrfa! 

Wedi ei fwriadu ar gyfer y rhai sydd awydd swydd broffesiynol, bydd y rhaglen undydd hon yn eich darparu â’r sgiliau a’r wybodaeth i ragori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid, meithrin ffyddlondeb brand, ac arwain llwyddiant busnes. 

Gwnewch eich hun yn amlwg yn y byd cystadleuol gyda’n dull unigryw sy’n cyfuno technegau ymarferol, sefyllfaoedd y byd go iawn, a chipolygon arbenigol.

Cliciwch yr is-benawdau isod i ddysgu rhagor!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd dysgwyr yn gwneud eu hunain yn gyfarwydd â phrif egwyddorion rhagori mewn gwasanaethau cwsmeriaid gan ddefnyddio’r chwe philer a dderbynnir yn fyd-eang:

  • Uniondeb

  • Empathi

  • Disgwyliadau

  • Personoliad

  • Amser ac Ymdrech

  • Datrysiad 


Bydd yr egwyddorion hyn wedi eu hymgorffori drwy gydol y diwrnod wrth i ni ystyried pynciau sy’n cynnwys; cyfathrebu effeithiol, datrys problemau, meithrin cysylltiadau, delio â sgyrsiau anodd a phersonoliaethau gwahanol. 


Byddwn hefyd yn edrych ar reoli cwynion drwy gymhwyso’r Paradocs Adfer Gwasanaeth, gan eich grymuso i ddelio â chwynion yn hyderus.


Erbyn diwedd y dydd, byddwch wedi ennill dealltwriaeth gyfannol o beth sydd ei angen i fod yn seren gwasanaethau cwsmeriaid! 

Ffïoedd cwrs

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £40.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys am y cwrs hwn os ydych yn:

  • 19 oed neu hŷn
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • yn gallu mynychu’r cwrs ar bob dyddiad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

16 Gorffennaf 2025

Dyddiad gorffen

16 Gorffennaf 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSCS2P01
L2

Cymhwyster

CAVC Certificate

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).

Ar ôl cwblhau, byddwch yn barod i geisio swyddi gwasanaethau cwsmeriaid neu astudiaeth bellach.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE