Cynlluniwyd ein Cwrs Diploma OCR mewn Gweinyddu i roi'r cyfle i fyfyrwyr gychwyn ar yrfa ddiddorol a gwerth chweil ym maes gweinyddu. Gan astudio ar ein campws Canol Dinas yng Nghaerdydd, bydd dysgwyr yn datblygu'r sgiliau a'r galluoedd a ystyrir gan gyflogwyr i daclo ystod eang o ddyletswyddau gweinyddol yn hyderus.
Ymhlith y pynciau mae:
Byddwch yn dysgu drwy ddarlithoedd byr, gweithio gyda myfyrwyr eraill mewn parau a grwpiau, arddangosiadau a gwaith ymarferol. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau dadansoddi a goruchwylio da. Byddwch hefyd yn treulio amser yn gweithio fel rheolwr yn swyddfa weithredol y coleg, gan roi eich sgiliau gweinyddu ar waith a chasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio. Bydd profiad gwaith yn eich helpu i werthfawrogi'r cysylltiad rhwng theori'r cwrs a rhoi'r theori ar waith mewn amgylchedd gwaith go iawn.
Yn barod am yrfa
Pan fyddwch wedi dewis eich cwrs, rydym yn argymell yn gryf i chi gofrestru ar raglen Career Ready. Dyma raglen sy'n rhedeg ochr yn ochr â'ch cwrs i sicrhau taith drawsnewidiol, a bydd yn eich helpu i gamu mewn i'r byd gwaith neu brifysgol gyda hyder, sgiliau a rhwydweithiau proffesiynol, sy'n angenrheidiol i gyflawni eich potensial.
Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael mentor, ymweliadau â'r gweithle, dosbarthiadau meistr a phrofiadau yn seiliedig ar waith, a all gynnwys interniaeth. Bydd pob un o'r rhain yn ychwanegu at eich astudiaethau i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder sy'n angenrheidiol i lwyddo yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol.
5 TGAU Gradd A*-C yn cynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster Lefel 2 perthnasol. Ystyrir myfyrwyr aeddfed heb TGAU os oes ganddynt brofiad gwaith perthnasol mewn gweinyddiaeth neu wasanaeth cwsmeriaid.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Buaswn i’n bendant yn argymell astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae’r coleg wedi fy nghefnogi drwy gydol fy nghwrs ac, yn ogystal â fy helpu gyda cheisiadau, mae wedi fy helpu gyda phrofiad gwaith oedd ei angen i ddatblygu fy CV.”
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i ddilyn cyrsiau mewn prifysgol, neu wahanol gyfleoedd gwaith yn y diwydiant.