Cynlluniwyd ein Cwrs Diploma OCR mewn Gweinyddu i roi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau a ystyrir yn hanfodol gan gyflogwyr heddiw. O Wasanaeth Cwsmeriaid i Brosesu Geiriau a Thestun, mae'r rhaglen hon yn cwmpasu popeth sydd angen i chi ei wybod am rôl ym maes gweinyddu. Gan astudio ar ein campws Canol Dinas yng Nghaerdydd, bydd dysgwyr yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol sy'n ofynnol i daclo ystod eang o ddyletswyddau gweinyddol yn hyderus.
Ymhlith y pynciau a astudir mae:
Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd byr, gweithio gyda myfyrwyr eraill mewn parau a grwpiau, arddangosiadau a gwaith ymarferol i'ch helpu i ddatblygu sgiliau gweinyddu cyffredinol da. Bydd e-ddysgu hefyd yn rhan o'r cwrs, a byddwch yn treulio amser yn swyddfa weithredol y coleg, gan roi eich sgiliau ar waith a chasglu tystiolaeth.
4 TGAU Graddau A* i D gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Buaswn i’n bendant yn argymell astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae’r coleg wedi fy nghefnogi drwy gydol fy nghwrs ac, yn ogystal â fy helpu gyda cheisiadau, mae wedi fy helpu gyda phrofiad gwaith oedd ei angen i ddatblygu fy CV.”
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i gymhwyster galwedigaethol lefel uwch, megis y Diploma OCR Lefel 3 mewn Gweinyddiaeth. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn llwyddo i gael swyddi gweinyddol.