A ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau a’ch dealltwriaeth o Farchnata? Os felly, ein Tystysgrif BTEC Lefel 3 mewn Marchnata, a’n Diploma BTEC mewn Marchnata yw’r dewis perffaith i chi! Wedi'u lleoli ar ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd myfyrwyr yn ennill cymhwyster ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith, sy’n gyfystyr â dau gymhwyster Safon Uwch. Gan astudio yn nosbarthiadau a gan ddefnyddio cyfleusterau pwrpasol y Coleg, bydd myfyrwyr yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion gweithle go iawn.
Bydd pawb sy'n dilyn y cwrs hwn yn astudio tair uned orfodol, sy'n mynd i'r afael â'r meysydd canlynol:
• Gyrfaoedd mewn Marchnata
• Egwyddorion Marchnata (wedi’i asesu’n allanol)
• Cyfathrebu â Chwsmeriaid. Mae’r cynnwys gorfodol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau, gyda gwybodaeth reiddiol wrth wraidd hynny, ac yn darparu cyfle i ddysgwyr ymgysylltu â’r diwydiant marchnata.
4 TGAU Gradd A* - C yn cynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth) neu gymhwyster Lefel 2 Busnes gyda Gradd TGAU A*-C mewn Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth). Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol gael sgôr IELTS o 5.5 neu uwch.
Aseiniadau rheolaidd ac arholiadau ysgrifenedig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae'r cymhwyster hwn yn baratoad da ar gyfer cyflogaeth a dilyniant i gyrsiau addysg uwch mewn maes sy'n gysylltiedig â busnes.