Cyfrifeg Hunangyflogedig

L2 Lefel 2
Rhan Amser
4 Tachwedd 2026 — 16 Rhagfyr 2026
Ar-lein

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r cymhwyster hwn yn datblygu sgiliau ymarferol i gynorthwyo gyda chadw cofnodion. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth o ofynion Troi Treth yn Ddigidol a HMRC.

Bydd myfyrwyr yn ymdrin â chofnodion o ran cywirdeb, yn gwneud cofnodion mewn llyfrau a chyfrifon priodol ac yn cyfrifo anfonebau gwerthiannau a nodiadau credyd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

  • Deall gofynion cadw cofnodion ar gyfer unigolion hunangyflogedig. 
  • Deall incwm busnes a gwariant a ganiateir.
  • Deall datganiadau ariannol sylfaenol.
  • Gallu defnyddio meddalwedd digidol i gofnodi incwm a gwariant.
  • Deall gofynion adrodd digidol HMRC.

Cynhelir yr asesiad drwy aseiniad.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £20.00

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £65.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Tachwedd 2026

Dyddiad gorffen

16 Rhagfyr 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

BSCC2P45
L2

Cymhwyster

Self-employed Accounting