Mae'r Dyfarniad AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) mewn Cadw Cyfrifon yn gymhwyster cadw cyfrifon lefel mynediad ar gyfer unrhyw un sydd eisiau blas, neu gyflwyniad i egwyddorion sylfaenol cadw cyfrifon ac sydd eisiau datblygu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy i helpu i ddatblygu neu newid gyrfa. Bydd y cymhwyster hwn yn addas ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd wedi cael ychydig o brofiad gwaith, neu'r rheiny sydd angen mwy o gymorth er mwyn mynd ymhellach. Efallai y bydd hefyd o ddiddordeb i'r rheiny sy'n hunangyflogedig neu'n gweithio mewn busnes bach sydd eisiau cadw eu cyfrifon eu hunain.
Bydd myfyrwyr yn dysgu am y prif rolau mae ceidwad cyfrifon yn ymgymryd â nhw, ac yn dysgu theori sylfaenol y cysyniad hanfodol ar gyfer cadw cyfrifon cofnod dwbl, yn cynnwys sut i adnabod asedau, rhwymedigaethau, incwm, costau a chyfalaf. Mae hwn yn gwrs ymarferol iawn, ac ymhlith y pynciau a astudir mae: rôl y ceidwad cyfrifon; deall trafodion ariannol; prosesu trafodion cwsmeriaid a chyflenwyr; prosesu derbyniadau a thaliadau, yn cynnwys paratoi ar gyfer cysoniad banc.
*Ffioedd cofrestru dysgwyr i’w talu’n uniongyrchol i’r AAT, yn ychwanegol at y Ffioedd Cwrs. Mae’r rhain yn amodol ar newid gan yr AAT ym mis Awst
Ffioedd Cofrestru 2023/24
Lefel 1 Cadw Cyfrifon = £45
Ffi Arholiad : £43.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00
Ffi Cwrs: £162.00
Lefel dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd posibilrwydd symud ymlaen i Dystysgrif Sylfaen AAT L2 mewn Cyfrifeg neu Dystysgrif L2 mewn Cadw Cyfrifon. Er mwyn gallu symud ymlaen yn llwyddiannus i Dystysgrif Sylfaen Lefel 2 mewn Cadw Cyfrifon neu Dystysgrif Sylfaen Lefel 2 mewn Cyfrifeg, argymhellir bod gan fyfyrwyr hefyd TGAU Gradd C neu gyfwerth mewn Saesneg a Mathemateg. Bydd y sgiliau a ddatblygir wrth astudio'r cymhwyster hwn yn rhoi sylfaen gadarn i fyfyrwyr i chwilio am waith yn fwy hyderus neu'n eu galluogi i symud ymlaen i'r lefel nesaf o ddysgu. Gall sgiliau a ddatblygir o fewn y cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth mewn rolau gweinyddol iau neu gefnogi mewn cwmnïau ar draws ystod eang o sectorau, er enghraifft, fel:
ceidwad cyfrifon dan hyfforddiant
gweinyddwr cyfrifon
gweinyddwr/cydlynydd bilio/taliadau
swyddog cyfrifon lefel mynediad
cynorthwyydd cyfrifon derbyniadwy/taladwy
cynorthwyydd caffael a chyllid
ariannwr cynorthwyol