Bydd yr uned hon yn cyfarparu myfyrwyr â'r ddealltwriaeth ac egwyddorion sylfaenol o amgylcheddau dylunio 2D o ran caledwedd, meddalwedd ac amgylchoedd ffisegol. Bydd yn archwilio cyfansoddiad cyffredinol system Modelu CAD a materion Iechyd a Diogelwch sy'n gysylltiedig ag arferion gweithio diogel.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i:
Y cam nesaf ar ôl y cwrs hwn fyddai datblygu sgiliau pellach mewn peirianneg sifil a thechnoleg adeiladu, drwy astudio un o'n cyrsiau Adeiladu a'r amgylchedd adeiledig Lefel 3, yn llawn amser neu ran amser.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Arholiad : £40.00
Cyfweliad boddhaol ac awydd i symud ymlaen yn y Diwydiant Adeiladu a Dylunio. CDP/Offer sydd ei angen i astudio - Gliniadur neu’r gallu i ddefnyddio cyfrifiadur gartref.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.