Mae CAVC, mewn cydweithrediad â’r Coleg Brenhinol Nyrsio, USW a bwrdd iechyd Aneurin Bevan, yn cynnig y cwrs hwn i ddysgwyr sydd wedi astudio ar Lefel 3 yn flaenorol sy’n dymuno gweithio ym maes nyrsio.
Byddwch yn mynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos, ac USW un diwrnod y mis i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich profiad prifysgol.
Cynhelir y cwrs am 6 mis i baratoi ar gyfer derbyn myfyrwyr nyrsio yn nhymor y gwanwyn.
Bydd y cwrs yn darparu’r canlynol i chi:
Gall dysgwyr sydd â swyddi gweithwyr cymorth Gofal Iechyd wneud cais i gwblhau’r cwrs hwn ac aros yn eu cyflogaeth bresennol.
Byddwch yn cwblhau modiwlau mewn arfer myfyriol lle byddwch yn defnyddio eich profiad gwaith â thâl i gymhwyso polisi a damcaniaeth wrth ymarfer.
Byddwch hefyd yn cwblhau diploma nyrsio Lefel 3 y Coleg Brenhinol Nyrsio ac yn edrych ar feysydd a phynciau sy’n bwysig mewn rôl gweithiwr gofal iechyd, fel cynhwysiant, gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac atal a rheoli heintiau.
Yr ystafell efelychu Gofal Iechyd yn y Coleg, defnydd o'r llyfrgell RCN a defnydd o gyfleusterau USW.
Cais uniongyrchol i USW ar gyfer cyrsiau Nyrsio.
Ymgeiswyr sy’n dymuno datblygu i yrfa Nyrsio. Diploma Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3, Neu Lefel 3 Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth, Neu 3 chymhwyster Safon Uwch sy’n canolbwyntio ar iechyd a gofal. TGAU Saesneg Iaith ar radd C neu uwch TGAU Mathemateg at radd C neu uwch (neu gyfwerth)
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae cefnogaeth wych ar gael ac mae'n amgylchedd arbennig i weithio ynddo.
Eglurwch unrhyw gyfleoedd astudio pellach a rhagolygon gwaith ar ôl cwblhau'r cwrs. Gall dysgwyr sy’n cwblhau'r cwrs hwn ddewis gwneud cais ar gyfer cyrsiau nyrsio sy'n dechrau yn y gwanwyn neu'r haf mewn unrhyw brifysgol berthnasol.
Gall dysgwyr hefyd ddewis aros mewn rôl cymorth gofal iechyd i ddatblygu’n fewnol o fewn bwrdd iechyd Aneurin Bevan.