Cyrsiau Lled-ddargludydd Cyfansawdd Ar-lein a Chyfunol

Wedi'i darparu gan Brifysgol Caerdydd, mae'r gyfres hon o gyrsiau ar-lein, cyfunol, rhad ac am ddim sy'n cynnig hyfforddiant yn y sector lled-ddargludydd cyfansawdd sy'n prysur dyfu. Byddant yn eich helpu i uwchsgilio neu ailsgilio er mwyn eich darparu gyda'r ddealltwriaeth a'r wybodaeth y mae cyflogwyr yn y maes yn chwilio amdano. 

Wedi'i ariannu ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Economaidd Llywodraeth y DU, mae'r cyrsiau hyn yn rhai cyfunol ac ar-lein ac yn gweithio o gwmpas eich ymrwymiadau yn eich bywyd. Mae'n bosib eich bod eisoes yn gweithio yn y sector lled-ddargludydd ac yn awyddus i ehangu eich gwybodaeth, neu eich bod am ailsgilio ar gyfer y sector hwn sy'n tyfu. Mae'r cyrsiau hefyd yn berthnasol i rai sy'n cefnogi'r sector (megis athrawon a darlithwyr) yn ogystal â graddedigion diweddar sydd â'r nod o fynd mewn i'r farchnad swyddi.

Mae'r twf yn y maes cyffrous hwn yn hanfodol er mwyn galluogi technolegau newydd ac arloesol megis 5G, ceir heb yrwyr, Y Rhyngrwyd Pethau (IoT), a Deallusrwydd Artiffisial (AI) a chefnogi cynaliadwyedd a'r agenda sero net.

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Lleoliadau ar gael
Cyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd L3 Rhan Amser Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. Ar-lein
Cyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd L3 Rhan Amser Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. Ar-lein
Protocolau ystafell lân L3 Rhan Amser Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. Ar-lein