Mae Gweledigaeth a Strategaeth Ynni Prifddinas Ranbarthol Caerdydd wedi cael ei sefydlu er mwyn cynorthwyo’r rhanbarth i gyflawni system ynni sero net erbyn 2050, yn unol ag amcanion a osodwyd gan Lywodraeth y DU. Mae ein cyfres o gyrsiau byr a chymwysterau Sero Net yn cefnogi busnesau a sefydliadau i gyflymu'r broses o sicrhau bod ein Rhanbarth wedi’i ddatgarboneiddio ac yn gynaliadwy.
Fel rhan o adolygiad sgiliau y rhanbarth, pwysleisiodd cyflogwyr sy’n gweithio ar draws Sero Net o fewn CCR, pa mor bwysig yw hi i ddenu a chadw gweithlu gyda’r sgiliau cywir a'r gallu i sicrhau twf cynaliadwy a thrawsnewid diwydiannol. Er mwyn cefnogi blaenoriaethau sgiliau’r rhanbarth, rydym wedi cyflwyno rhaglenni sgiliau cysylltiedig Sero Net, i gefnogi ac i hyrwyddo twf y sector.
Mae’r cyrsiau isod yn cael eu cynnig mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws de Cymru. Cliciwch Gwnewch gais nawr ar y dudalen hon, a drwy sgrinio byddwch yn cael gwybod am y cwrs agosaf atoch chi. Mae'r darparwyr yn cynnwys:
Gosodiadau Trydanol
Cerbyd Trydan
Systemau Storio Ynni
Rheoli Amgylcheddol
Gwefru Cerbydau Trydan
Pwmp Gwres
Gwresogi
Ôl-osod
Solar: Ffotofoltäig
Systemau Dŵr Poeth Solar
Tyrbin Gwynt