CAVC CCF

Y CCF (Byddin) yw adran Cadetiaid y Fyddin y Llu Cadetiaid Cyfunol. Ar draws holl Luoedd Cadetiaid y Fyddin, mae oddeutu 67,700 o Gadetiaid a 11,100 o Wirfoddolwyr sy'n Oedolion. Mae adrannau Byddin y CCF yn cyfrif bron i hanner o'r ffigyrau cadetiaid hyn gyda chyfanswm o bron i 29,000 o gadetiaid a 2,100 o Wirfoddolwyr sy'n Oedolion cefnogol wedi'u lleoli mewn lluoedd mewn dros 260 o ysgolion ledled y DU a Gogledd Iwerddon. 

Nod y CCF (Byddin) yw hyrwyddo cyfrifoldeb, hunanddibyniaeth, dyfeisgarwch ac ymdeimlad o wasanaeth i'r gymuned. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys driliau, sgiliau trin arfau, saethu, crefft maes a chymorth cyntaf ac mae cadét yn treulio hyd at 40% o'i amser ar weithgareddau hyfforddiant anturiaethus. Drwy ymuno â'r CCF (Byddin) mae gan gadetiaid hefyd gyfle i gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddoli neu waith elusennol yn y gymuned ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol megis Gwobr Dug Caeredin a chymwysterau BTEC.

Mae ymuno â'r CCF (Byddin) yn rhoi cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau â'r thema Byddin, ac mae'r cwbl yn canolbwyntio ar feithrin unigolion hunanddisgybledig sydd â hunanddewrder a synnwyr o werth. Fel sefydliad ieuenctid, mae'r CCF (Byddin) yn ymdrechu i roi profiad hwyliog a diogel i gadetiaid. Nid oes ymrwymiad gan gadetiaid na disgwyliad iddynt ymuno â'r Lluoedd Arfog parhaol pan fyddant wedi cwblhau eu haddysg."

Ar hyn o bryd rydym yn ymarfer bob prynhawn Mercher 1300 - 1500 ar Gampws y Barri, rhoddir costau teithio lle bo'n briodol. Mae'r CCF yn agored i holl fyfyrwyr CAVC sydd rhwng 14 - 18 oed. Nid oes costau ar gyfer gwisgoedd, yswiriannau na theithiau i ffwrdd; fodd bynnag bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu cyfradd bwyd dyddiol o £2.20 tra eu bod ar ddyddiau hyfforddiant maes neu wersyll blynyddol.

Am ragor o wybodaeth, gall myfyrwyr, gwarcheidwaid ac athrawon gysylltu â ni ar:
Ail Is-gapten Tom Jones (CCF) tjones@cavc.ac.uk a Sarsiant Clayton Gibbons (RLC) cgibbons@cavc.ac.uk