Gyrfaoedd a Syniadau

Mae’r tîm Gyrfaoedd a Syniadau yma i’ch helpu chi drwy gydol eich cyfnod yn y coleg. Os ydych chi angen cyngor gyrfaol a chymorth gyda chynllunio eich camau nesaf, neu os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau i wella eich CV/cais UCAS, rydych chi wedi dod i’r lle iawn.  

Hefyd rydyn ni yma i gefnogi dysgwyr sydd â diddordeb mewn sefydlu busnes, bod yn hunangyflogedig neu weithio’n llawrydd. 

Beth allwn ni ei wneud i chi?

Addysg, Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd

Mae gan y Tîm Gyrfaoedd a Syniadau hyfforddwyr gyrfaoedd cymwys sy'n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd yn ddiduedd ar gyfer pob dysgwr. Gyda dull myfyriwr-ganolog, mae'r hyfforddwyr ar gael i gefnogi dysgwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu camau nesaf. 
Mae'r tîm Gyrfaoedd wedi cyflawni Safon Marc a Matrics Gyrfa Cymru o ran gwybodaeth, cyngor ac arweiniad a gwaith o fewn Meincnodau Canllawiau Gyrfa Dda Gatsby. Mae'r Hyfforddwyr Gyrfaoedd yn gyfrifol am gyflwyno rhaglen yrfaoedd sefydlog, gan ddarparu cyfleoedd i ryngweithio â chyflogwyr a darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad o safon uchel.

Cysylltwch â ni! 

Dewch i ymweld â'r Ganolfan Gyrfaoedd a Syniadau ar Gampws Canol y Ddinas. 
E-bost: careers@cavc.ac.uk 

Lleoliad Gwaith

Mae'r tîm Gyrfaoedd yn cynnig cyfleoedd lleoliad gwaith er mwyn i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a gwella eu rhagolygon cyflogaeth ar gyfer y dyfodol. Drwy weithio'n agos gydag amrywiaeth o gyflogwyr lleol a chenedlaethol, mae'r tîm yn creu amrywiaeth eang o leoliadau gwaith.  
Mae profiad gwaith yn orfodol ar gyfer y mwyafrif o'r cyrsiau a gyflwynir yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Fel cais gan Lywodraeth Cymru, mae angen i'n myfyrwyr gwblhau lleiafrif penodol o oriau profiad gwaith er mwyn cwblhau eu cwrs. Mae'r oriau gofynnol yn dibynnu ar yr adran a lefel y cwrs.  
O ganlyniad i'n cydweithio llwyddiannus, mae llawer o'n dysgwyr yn derbyn cyfleoedd cyflogaeth ar ôl cwblhau lleoliadau gwaith. Mae ein Swyddogion Lleoliadau Gwaith yn cydweithio gyda'r dysgwyr a'r tiwtoriaid er mwyn sicrhau profiad cadarnhaol a buddiol i'r dysgwyr a'r cyflogwyr. 

Cysylltwch â ni! 

Dewch i ymweld â'r Ganolfan Gyrfaoedd a Syniadau ar Gampws Canol y Ddinas. 
E-bost: careers@cavc.ac.uk 

Menter ac Entrepreneuriaeth

Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro anelwn at osod addysg menter ac entrepreneuriaeth wrth galon popeth a wnawn. 
Rydym yn gyfrifol am gyflawni strategaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Llywodraeth Cymru yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid. Rydym yn helpu myfyrwyr i ddatblygu syniadau, dysgu am gychwyn busnes ac yn eu helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at arwain eu busnes eu hunain.

Cliciwch yma i ddarganfod ein Llwyddiannau 2020

Mae ein cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi ein galluogi i sefydlu siwrnai gychwynnol ar draws y sefydliad yn ogystal â chyflwyno gweithgareddau newydd er mwyn cyflymu entrepreneuriaeth myfyrwyr, gan ein helpu i nodi a meithrin uchelgais myfyrwyr ar gyfer cychwyn busnes. 

Cliciwch yma i ddarganfod mwy a darganfyddwch lle'r ydych chi ar y daith i gychwyn busnes.

Cystadlaethau Sgiliau

Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro rydym yn annog ein dysgwyr i ddatblygu a rhagori yn eu hastudiaethau galwedigaethol drwy roi cyfleoedd iddynt gystadlu mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd y rhan fwyaf o gystadleuwyr yn cychwyn eu taith drwy gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Yn ogystal, gall dysgwyr ymuno â chystadlaethau WorldSkills UK, ac os ydynt yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth ranbarthol, byddant yn cael eu gwahodd i gystadlu yn rownd derfynol fyw WorldSkills UK yn yr NEC yn Birmingham. Yn dilyn hyn, gellir gwahodd dysgwyr i gystadlu fel rhan o dîm y DU yn rownd derfynol EuroSkills a WorldSkills. Bydd rownd derfynol nesaf WorldSkills yn cael ei chynnal yn Shanghai, Tsieina yn 2021. 

Llwyddiannau Coleg Caerdydd a'r Fro: 

Mae nifer o ddysgwyr wedi ennill medalau yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru ac mae dysgwyr hefyd wedi llwyddo ar lefel y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol. Dyma rai o'r canlyniadau:   

Canlyniadau WorldSkills UK: 

  • Roedd Tom Lewis (Gosodiadau Trydanol) a Kyle Woodward (Seiberddiogelwch) yn aelodau o dîm y DU.  
  • Cystadlodd Tom a Kyle ill dau yn rownd derfynol World Skills yn Kazan, Rwsia.  

Canlyniadau WorldSkills UK 2019:  

  • Holly Edwards (Cystadleuaeth Ymarferydd Therapi Harddwch) Clod Uchel 
  • Kristian Brooks (Gweinyddwr Systemau Rhwydwaith) Clod Uchel 
  • Morgan McNeil (Gweinyddwr Systemau Rhwydwaith) Arian 
  • Scott Roberts (Gweinyddwr Systemau Rhwydwaith) Efydd 

Cysylltwch â ni! 

Dewch i ymweld â'r Ganolfan Gyrfaoedd a Syniadau ar Gampws Canol y Ddinas. 

E-bost: skillscompetitions@cavc.ac.uk

Erasmus+

Mae Erasmus + yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gyfranogwyr astudio, gweithio, gwirfoddoli, addysgu a hyfforddi dramor yn Ewrop. Ar hyn o bryd mae ymweliadau Erasmus yn digwydd mewn nifer o feysydd cwricwlwm gan gynnwys: Busnes a Thechnoleg Gwybodaeth, Gofal Iechyd a Chymdeithasol, Chwaraeon, Teithio a Thwristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo, Harddwch a Gwallt, Peirianneg Awyrofod a'r maes Creadigol. 
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid wedi'u lleoli ledled Ewrop. Yn 2020 yn unig, rydym yn anfon 64 o'n dysgwyr ar leoliad pythefnos i nifer o wledydd gwahanol, gan gynnwys: Nantes, Ffrainc, Valencia, Sbaen, Barcelona, Sbaen, Venice, yr Eidal, Bergen, Norwy, Majorca, Sbaen, Cyprus, Lisbon, Portiwgal, Cruseilles, Ffrainc, Madrid, Sbaen a Mosta, Malta

Cysylltwch â ni!  

Dewch i ymweld â'r Ganolfan Gyrfaoedd a Syniadau ar Gampws Canol y Ddinas.  
E-bost: erasmus@cavc.ac.uk

Canolfan Gyrfaoedd a Syniadau

Ar ein dau brif gampws (Canol Dinas Caerdydd a Heol Colcot, Y Barri) mae gennym Ganolfannau Gyrfaoedd galw heibio. Mae pob canolfan yn cael ei staffio gan aelod o'r tîm Gyrfaoedd a Syniadau a fydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau yn ymwneud â gyrfaoedd a menter. 
Gallwch gael mynediad at y Ganolfan ar unrhyw adeg yn ystod eich cyfnod yn y coleg. Gall ein tîm cyfeillgar gynnig cyngor ac arweiniad i chi ar bob cam o daith y dysgwr.  
Canolfan Gyrfaoedd a Syniadau, Ystafell 126 ar gampws Canol y Ddinas neu AG6 (wrth y dderbynfa) ar gampws Heol Colcot. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymorth Gyrfaoedd a Syniadau yn CAVC, cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi.