Caiff y sesiynau cwnsela eu cynnal mewn lleoliad preifat ac anffurfiol, ac mae’r cwnselwyr yn gweithio yn unol â rheolau llym cyfrinachedd a chanllawiau Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain. Gall dysgwyr ddweud unrhyw beth maen nhw’n poeni amdano, megis tensiynau teuluol, colled neu brofedigaeth, diffyg hunanhyder, anawsterau gyda pherthnasoedd, cam-drin corfforol a rhywiol, gorbryder, iselder ac ymdopi ag argyfyngau neu benderfyniadau anodd.
Mae apwyntiadau cwnsela ar gael drwy gydol yr wythnos ar draws holl safleoedd y Coleg.
I gael cefnogaeth gwnsela: