Mae Graddau Sylfaen yn integreiddio dysgu academaidd a seiliedig ar waith trwy gydweithio rhwng cyflogwyr a darparwyr rhaglenni. Eu bwriad yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth berthnasol i ddiwydiant. Mae Graddau Sylfaen yn cynnig cymhwyster annibynnol a hefyd yn cynnig cyfleoedd cynnydd ar gyfer astudiaethau pellach. Fel arfer, trwy astudio dros ddwy flynedd (tua 3 blynedd yn rhan amser) bydd myfyrwyr llwyddiannus yn cael cyfle i 'ychwanegu' i radd lawn gyda'n prifysgolion partner.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am nodweddion penodol Graddau Sylfaen edrychwch ar Ddatganiad Meincnodi Graddau Sylfaen yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (QAA).
Os ydych chi'n chwilio am cymhwyster cysylltiedig â gwaith fydd yn hybu eich gyrfa ac yn cynnig sgiliau ymarferol, mae ein cyrsiau HNC a HND yn opsiwn delfrydol. Mae HNC's a HND's yn gymwysterau cysylltiedig â diwydiant ac yn cael eu cyfri'n werthfawr gan gyflogwyr. Mae cyrsiau HNC a HND yn cyfuno gwaith academaidd ac ymarferol a dysgu galwedigaethol fydd yn datblygu'r sgiliau byddwch eu hangen yn y gweithle.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cynnig cyrsiau graddau llawn cyffrous. Mae'r rhain yn cael eu cynnig mewn partneriaeth â nifer o brifysgolion ac yn rhoi i chi gymhwyster gradd yn eich maes diddordeb.
Mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, mae CAVC yn cynnig y ddau gymhwyster yma mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol i'ch galluogi i ennill cymhwyster sy'n cael ei gydnabod fel un cymwys i ddysgu yn y sector ôl-orfodol.