Sut i wneud cais am gwrs AU
Cyrsiau llawn amser Addysg Uwch
Gellir gwneud cais am gyrsiau llawn amser trwy UCAS (Gwasanaeth Derbyn i Brifysgolion a Cholegau) Edrychwch ar daflenni gwybodaeth y cyrsiau unigol am arweiniad.
Gwneud cais trwy UCAS - Ewch i wefan UCAS. Byddwch angen cod cwrs penodol UCAS a ddangosir ar y daflen wybodaeth berthnasol. Cewch restr gyflawn yma.
Cyrsiau rhan amser Addysg Uwch
Rhaid i chi wneud cais uniongyrchol i Goleg Caerdydd a'r Fro. Gallwch wneud hynny trwy glicio ar 'gwneud cais' ar unrhyw un o'n cyrsiau.
Nodwch os gwelwch yn dda:
Bydd y coleg yn gwasanaethu ei rwymedigaethau cytundebol i fyfyrwyr ac yn cydymffurfio â'i ymrwymiadau o dan gyfraith defnyddwyr. Wrth wneud hynny, bydd y coleg yn gweithio i ddiogelu buddiannau'r myfyrwyr wrth ymateb i amgylchiadau fel newidiadau sylweddol i'r ffordd y caiff cwrs ei gyflwyno. Mae gan y coleg weithdrefnau ar waith i ymateb i'r amgylchiadau hyn a fydd yn lliniaru'r effaith bosibl ar fyfyrwyr ac sy'n cydnabod anghenion gwahanol ei gorff myfyrwyr amrywiol.