Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Myfyrwyr AU llawn amser

Beth sydd ar gael?
Ar gyfer myfyrwyr llawn amser, mae ystod o gefnogaeth ariannol ar gael tra rydych yn astudio. Mae hyn yn cynnwys grantiau a bwrsarïau (nad oes rhaid i chi eu talu yn ol). Mae'r math o gefnogaeth fyddwch yn ei derbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau, eich cwrs a lle rydych yn astudio.

Ffeithiau Allweddol

  • Ni fydd mwyafrif y myfyrwyr yn talu dim o flaen llaw
  • Gall Prifysgolion a Cholegau godi uchafswm o £9,250 y flwyddyn mewn ffioedd dysgu.
  • Gall myfyrwyr sy’n astudio eu cwrs AU cyntaf, sydd yn ddinasyddion y DU, dinesydd Gwyddelig neu gyda “statws sefydlog” ac fel arfer yn byw yng Nghymru gael Benthyciad Ffioedd Dysgu hyd at uchafswm o £9,250. Nid yw'r Benthyciad Ffioedd Dysgu yn seiliedig ar incwm eich cartref.  
  • Ar ben hynny gallwch gael cymorth Cynhaliaeth (help gyda chostau byw). Gall myfyrwyr cymwys sy’n byw oddi cartref (y tu allan i Lundain) gael £11,720 y flwyddyn, sy’n cynnwys cymysgedd o grant a benthyciad.
  • Bydd swm y grant a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. (Edrychwch ar y tabl isod am fwy o fanylion)
  • Ni fydd rhaid i fyfyrwyr dalu dim yn ôl nes eu bod mewn gwaith yn ennill dros y trothwy ad-dalu o £524 yr wythnos, neu £2,274 y mis
  • Os ydych chi wedi astudio cwrs AU o’r blaen, mae’n bwysig eich bod yn deall y gallai hynny effeithio ar ba mor gymwys ydych chi i gael cymorth. Ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk a darllen yr adran Rheolau Astudio Blaenorol. 

Mae’r tabl isod yn dangos sut mae incwm teuluoedd yn pennu swm y grant cynhaliaeth a gewch chi. Mae pob myfyriwr yn cael isafswm o £1,000 gyda benthyciad ychwanegol ar gael i chi gyrraedd y swm llawn.

Incwm y teulu

Byw gyda’ch rhieni

Byw oddi cartref, yn astudio y tu allan i Lundain

Byw oddi cartref, yn astudio yn Llundain

Grant

Benthyciad Cynhaliaeth

Grant

Benthyciad Cynhaliaeth

Grant

Benthyciad Cynhaliaeth

£18,370 or less

£6,885

£3,065

£8,100

£3,620

£10,124

£4,551

£25,000

£5,930

£4,020

£6,947

£4,773

£8,643

£5,992

£35,000

£4,488

£5,462

£5,208

£6,512

£6,408

£8,227

£45,000

£3,047

£6,903

£3,469

£8,251

£4,174

£10,461

£59,200 or more

£1,000

£8,950

£1,000

£10,720

£1,000

£13,635

Total

£9,950

£11,720

£14,635

Mae manylion llawn yr holl gymorth ariannol, gallwch weld sut a phryd i wneud cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk 

Byw tu allan i Gymru? Gall myfyrwyr sy'n byw tu allan i Gymru gael gwybodaeth am gyllid a phrosesau ymgeisio drwy ddilyn y dolenni canlynol