Teuluoedd yn Dysgu Gyda'i Gilydd

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o weithdai hwyliog, am ddim mewn lleoliadau amrywiol ledled Caerdydd ar gyfer teuluoedd, i ddatblygu sgiliau gyda’i gilydd mewn lleoliad pleserus a braf.

Mae Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd yn cynnig cyrsiau a gweithdai i rieni a gofalwyr er mwyn cefnogi dysgu eu plentyn.

Mae’r cyrsiau’n seiliedig ar weithgareddau a byddant yn eich darparu gyda’r wybodaeth ac adnoddau sydd angen arnoch er mwyn cefnogi eich plentyn gyda’u haddysg wrth ddatblygu eich sgiliau eich hunain.

10 wythnos yw hyd bob cwrs (oddeutu 3 awr yr wythnos).

Y tymor hwn rydym yn darparu cyrsiau ar lein ar gyfer yr oedrannau canlynol:

  • Dosbarthiadau Meithrin a Derbyn (3-5 mlwydd oed)
  • Blynyddoedd 1 a 2 (5-7 mlwydd oed)
  • CA2 Blynyddoedd 3 a 4 (7-9 mlwydd oed)
  • CA3 Blynyddoedd 7, 8 a 9 (11-14 mlwydd oed)

Caiff y cwrs ei deilwra i anghenion eich teulu. Mae yna amryw o ffyrdd i chi gael mynediad i’r cwrs: Gallwch fynychu sesiynau byw ar lein yn wythnosol, neu gallwch wylio recordiadau o’r sesiwn yn eich amser eich hun, gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio e-bost neu Teams. Bob wythnos bydd gofyn i chi gwblhau gweithgaredd neu gêm gyda’ch plentyn a chymryd rhan mewn sgwrs efo’r tiwtor. Bydd cefnogaeth ar gael trwy gydol y broses.

Mae pob cwrs am ddim i deuluoedd, ac yn cael eu hachredu gydag uned Agored Cymru.


Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle ar un o’n cyrsiau cysylltwch, â: 
families@cavc.ac.uk

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Tîm Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd.