Beth allaf i ei astudio?

Mae dwy ffordd i chi ddysgu gyda CAVC – dewiswch gwrs llawn amser neu Brentisiaeth - chi biau'r dewis.

1. Cyrsiau Llawn Amser

Dyma'r ffordd fwyaf poblogaidd i ieuenctid 16 i 18 oed ddysgu yn CAVC, *gyda thua 5,000 o bobl yn astudio cyrsiau llawn amser bob blwyddyn!*

Fel rheol byddwch yn astudio rhwng 16 a 22 o oriau yr wythnos yn y coleg (heb gynnwys gweithgareddau cysylltiedig â gwaith neu weithgareddau eraill) ac yn cymryd 1–2 o flynyddoedd academaidd i gwblhau eich cymhwyster. Cynigir cyrsiau llawn amser mewn gwahanol feysydd. Maent hefyd yn cael eu cynnig ar wahanol lefelau – Lefel Mynediad, Lefel 1, Lefel 2 neu Lefel 3. Fel rheol, bydd y lefel rydych chi'n ei gwneud yn seiliedig ar eich graddau TGAU. Er hynny, ar gyfer cyrsiau ymarferol iawn fel trin gwallt, gwaith brics neu bobi, mae pawb yn dechrau ar Lefel 1.

Wrth wneud cais am gwrs llawn amser yn CAVC dim ond dewis y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo fydd raid i chi. Bydd y lefel y byddwch yn ei hastudio'n cael ei chadarnhau pan fyddwch yn cofrestru ac ar ôl gweld eich cymwysterau a'ch canlyniadau. Byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod ar y lefel astudio briodol. Dyma drosolwg cyflym ar y gwahanol lefelau - y mathau o gyrsiau ar bob lefel a'r gofynion mynediad nodweddiadol ar gyfer pob un:

LEFEL 3

level 3 icon

Yn cynnwys AS/Lefel A llawn amser neu gymhwyster ffocws ar yrfa fel BTEC neu Ddiploma Estynedig CACHE – cyfateb i 2-3 Lefel A ond dim ond yn yr un pwnc hwnnw.

Mae gan y rhan fwyaf o gyrsiau Lefel 3 bwyntiau UCAS, felly gallwch symud ymlaen i brifysgol ar ôl ei gwblhau yn llwyddiannus. Mae cyrsiau Lefel 3 yn datblygu gwybodaeth fanwl a sgiliau lefel uchel mewn pwnc.

Gofynion mynediad:

fel rheol isafswm o 5 TGAU gradd A*–C, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.

LEFEL 2

l2_graphic

Yn cynnwys cymwysterau ffocws ar yrfa fel BTEC a Diploma CACHE neu NVQ 2.

Mae cyrsiau Lefel 2 yn datblygu gwybodaeth gyffredinol dda am bwnc. I sawl maes gyrfaol, mae hwn yn gymhwyster gofynnol er mwyn gweithio mewn diwydiant penodol.

Gofynion mynediad:

fel rheol isafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg yn ddelfrydol.

LEFEL 1

l1_graphic

Yn cynnwys cymwysterau ffocws ar yrfa fel NVQ 1.

Mae'r cyrsiau hyn yn gyflwyniad i bwnc ac yn datblygu eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth.

Gofynion mynediad:

fel rheol isafswm o 4 TGAU gradd E–G.

LEFEL MYNEDIAD

entry<em>level</em>graphic

Mae'r cyrsiau hyn yn darparu cyflwyniad i bwnc.

Yn aml maent yn cynnwys cefnogaeth ychwanegol i'r rhai sy'n astudio'r cwrs sy'n helpu eich datblygiad.

Gofynion mynediad:

dim angen cymwysterau ffurfiol.

Cofiwch ...

...mae'r gofynion mynediad sy'n cael eu dangos yn nodweddiadol. Er hynny, mae rhai cyrsiau'n amrywio felly cofiwch edrych ar daflen wybodaeth y cwrs ar y wefan am yr union ofynion mynediad. Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau, bydd meini prawf mynediad ychwanegol hefyd, fel cyfweliad, clyweliad neu brawf sgiliau llwyddiannus - a'r cyfan i sicrhau bod y cwrs yn briodol i chi.

2. PRENTISIAETHAU

apprenticeship-graphicMae prentisiaethau'n ffordd grêt o hyfforddi.

Dechrau swydd lawn amser yn y maes gyrfaol rydych yn dymuno gweithio ynddo. Wedyn gweithio, ennill a dysgu ochr yn ochr â hyn, gan ddod i mewn i'r coleg am un diwrnod yr wythnos fel rheol. Cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol yn eich swydd a chael eich asesu wrth weithio yn ogystal ag yn y coleg. Mae CAVC yn un o'r darparwyr mwyaf ar Brentisiaethau a nawr mae yma fwy o Brentisiaethau nag erioed o'r blaen! Mae Prentisiaethau'n cael eu cynnal yn y rhan fwyaf o ardaloedd ac yn cael eu cynnig ar wahanol lefelau. I wneud cais am Brentisiaeth, bydd rhaid i chi ddod o hyd i gyflogaeth Prentisiaeth i chi eich hun gyda chyflogwr sy'n fodlon i chi ddod i'r coleg a dilyn eich cymwysterau Prentisiaeth ochr yn ochr â gwaith.