Lefel(au): Lefel 3~
Hyd: 12 mis
Lleoliad: Yn y Gwaith
Ynglŷn â’r Cwrs:
Bwriedir i’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Theatr Dechnegol: Sŵn, Golau a Llwyfan alluogi’r dysgwyr i ennill ac arddangos yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y diwydiant theatr dechnegol, yn cynnwys gweithrediadau y tu ôl i’r llwyfan. Gallai arwain at gyflogaeth fel technegydd yn un neu fwy o’r meysydd canlynol: goruchwylydd neu reolwr cynnal a chadw, uwch-dechnegydd llwyfan neu brif ddyn y brig.
Llwybrau:
Tystysgrif BIIAB Lefel 3 mewn Theatr Dechnegol: Sŵn, Golau a Llwyfan
Tystysgrif BIIAB Lefel 3 mewn Egwyddorion y Sector Creadigol a Diwylliannol
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
Safon dda o Rifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU A*-C mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2.
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn