Lefel(au): Lefel 2
Hyd: 36-48 mis
Lleoliad: Canol y Ddinas, Heol Dumballs ac yn y Gweithle
Ynglŷn â’r Cwrs:
Mae’r cymhwyster Lefel 3 mewn Plymio a Gwresogi yn rhaglen gynhwysfawr a gydnabyddir gan y diwydiant. Mae’n rhoi i’r dysgwyr y cymhwysedd ymarferol a’r ddealltwriaeth dechnegol sy’n angenrheidiol i weithio’n hyderus yn y sector plymio a gwresogi. Mae’n elfen hanfodol o Lefel 3 Llwybr Prentisiaeth Cymru ac mae’n ategu cynnydd da o ran cyflogaeth a datblygiad proffesiynol pellach.
Llwybrau:
Mae Fframwaith Prentisiaethau Cymru yn nodi bod tair elfen yn orfodol, sef:
Cymwysterau
Rhaid i brentisiaid gwblhau’r cymwysterau technegol a’r cymwysterau cymhwysedd sy’n ofynnol, megis:
Lefel 2 Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (os na chyflawnwyd y cymhwyster hwn eisoes).
Yna, bydd y dysgwyr yn camu ymlaen at gymhwyster cyfunol Lefel 3 mewn Plymio a Gwresogi sy’n gorwedd o fewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu ac sy’n dilyn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Y cymhwyster EAL Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Plymio a Gwresogi yw’r elfen dechnegol a galwedigaethol sy’n ffurfio craidd y Brentisiaeth Plymio a Gwresogi (Lefel 3) yng Nghymru. Mae’n datblygu’r ystod lawn o ymddygiadau, gwybodaeth a sgiliau galwedigaethol sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth gymwys yn y sector plymio a gwresogi. Hefyd, mae’r Brentisiaeth Plymio a Gwresogi yn mynnu bod prentisiaid yn cwblhau’r cyrsiau ychwanegol a ganlyn: Rheoliadau Dŵr, Pympiau Gwres a Systemau Solar Thermol.
*Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 / *Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 / *Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 – Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
Mae’r Brentisiaeth Plymio a Gwresogi Lefel 3 yn addas ar gyfer y canlynol:
Dysgwyr 16+ oed sydd wedi’u cyflogi yn y maes plymio/gwresogi.
Dysgwyr sydd wedi pasio unrhyw asesiadau mynediad sy’n ymwneud yn benodol â’r sector.
Dysgwyr sydd wedi cyflawni un o’r llwybrau Lefel 2 canlynol (neu lwybr cyfwerth):
Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (Lefel 2)
Cymhwyster Camu Ymlaen mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2)
Bagloriaeth Cymru
TGAU A-C mewn Saesneg/Cyfathrebu, Mathemateg, a phwnc Gwyddonol/Technegol
Cymhwyster Lefel 2 ‘Mynediad at Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu’
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn