Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch

Prentisiaeth Uwch mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch

Lefel(au): Lefel 4

Hyd: 27 mis

Lleoliad: Campws y Barri ac yn y Gweithle

Ynglŷn â’r Cwrs:

Bwriedir i’r llwybr Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (Lefel 4) a’i ragflaenwyr Lefel 3 feithrin y sgiliau technegol ac ymarferol lefel uwch sy’n ofynnol yn y sectorau gweithgynhyrchu modern, yn cynnwys:
Peirianneg fecanyddol
Gweithgynhyrchu awyrofod
Peirianneg drydanol/electronig
Gweithgynhyrchu modurol
Peirianneg cynhyrchu a pheirianneg prosesau
Peirianneg cynnal a chadw
Technolegau gweithgynhyrchu uwch/awtomataidd
Mae’r fframwaith yn darparu technegwyr medrus ar gyfer cyflogwyr – rhai a all ategu gweithrediadau peirianneg manwl gywir, cymhleth, a ysgogir gan dechnoleg. Mae’r brentisiaeth yn addas ar gyfer:
Gweithwyr peirianneg/gweithgynhyrchu sy’n anelu at gymhwysedd technegol uwch.
Prentisiaid sy’n gweithio mewn amgylcheddau cynhyrchu modern
Cyflogwyr sy’n awyddus i ddatblygu gweithlu medrus â sgiliau uwch-dechnoleg
Unigolion sy’n awyddus i ddilyn llwybr all arwain at beirianneg ar lefel gradd tra’n parhau i weithio

Llwybrau:

Diploma NVQ Lefel 4 mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg
HNC mewn Peirianneg
*Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, Lefel 2
*Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol, Lefel 2
*Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael

Gofynion Mynediad:

TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a phwnc Gwyddonol – gradd C (gradd 4 newydd) neu uwch
Cymhwyster Peirianneg Lefel 3 (e.e. BTEC, NVQ Lefel 3, neu brentisiaeth berthnasol)
Rhaid i’r ymgeiswyr ar gyfer y llwybr hwn fod yn 18+ oed
Gan fod mynediad ar gyfer y llwybr hwn yn hyblyg:
- gall yr ymgeiswyr feddu ar amrywiaeth o gymwysterau fel Safon Uwch, Tystysgrif/Diploma mewn Peirianneg, Prentisiaeth mewn Peirianneg neu
- os nad oes ganddynt gymwysterau, gallant ddangos (trwy gyfrwng portffolio, o bosibl) eu bod yn meddu ar y potensial i gwblhau’r brentisiaeth hon, ar ôl gweithio o’r blaen yn y sector ar Lefel 3 neu
- eu bod wedi’u cyflogi ar hyn o bryd yn y sector a’u bod yn awyddus i ddatblygu’n bersonol a chamu ymlaen yn eu gyrfa.

Pwyntiau Pwysig:

Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn