Lefel(au): Lefel 2
Hyd: 15 mis
Lleoliad: Yn y Gwaith
Ynglŷn â’r Cwrs:
Mae’r cymhwyster Lefel 2 hwn mewn Arwain Tîm yn addas i unigolion sy’n mynd i’r afael â gwaith goruchwylio yn eu rôl gyfredol. Bydd angen ichi ddangos eich bod yn deall y gweithdrefnau a’r tasgau sy’n berthnasol i’ch maes, a hefyd bydd angen ichi ddangos eich bod yn gyfrifol am arwain tîm, gan helpu’r grŵp i gyflawni amcanion a datblygu perfformiad.
Llwybrau:
Diploma ILM Lefel 2 mewn Arwain Tîm
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 1
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 1
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, Lefel 1
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
16-24 oed, neu 25+ oed ac o fewn 12 mis i ddechrau mewn rôl
Lefel dda o Rifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU D-G mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 1.
Pwyntiau Pwysig:
Ni fydd graddedigion yn gymwys ar gyfer y brentisiaeth hon
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn
Lefel(au): Lefel 3
Hyd: 17 mis
Lleoliad: Yn y Gwaith
Ynglŷn â’r Cwrs:
Nod y brentisiaeth Lefel 3 mewn Rheoli yw meithrin y sgiliau craidd a’r wybodaeth drosglwyddadwy sy’n ofynnol ar gyfer camu ymlaen i yrfa lwyddiannus mewn rheoli ar draws amrywiaeth eang o ddiwydiannau. Darparu sgiliau mewn arwain a rheoli tîm bach, gosod amcanion, dyrannu gwaith, rheoli perfformiad a hwyluso newid.
Llwybr:
Diploma ILM Lefel 3 mewn Rheoli
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
Safon dda o Rifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU A*-C mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2.
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn