Newyddiaduraeth

Prentisiaeth Uwch mewn Newyddiaduraeth

Lefel(au): Lefel 5

Hyd: 18 mis

Lleoliad: Canol y Ddinas, 1 diwrnod yr wythnos

Ynglŷn â’r Cwrs:

Bydd y Brentisiaeth Newyddiaduraeth yn gweddu i ymgeiswyr sy’n canfod straeon, yn ymchwilio i straeon ac yn adrodd straeon ar amryfal lwyfannau, yn cynnwys ar-lein, trwy ddarlledu ac mewn print. Bydd y brentisiaeth yn paratoi’r prentisiaid ar gyfer y gofynion sydd ynghlwm wrth weithio yn y cyfryngau digidol trwy addysgu a meithrin y sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio fel newyddiadurwr proffesiynol. Mae llwybr y brentisiaeth yn anelu at gynnig llwybr mynediad amgen (nad yw’n ofynnol cael gradd ar ei gyfer) gogyfer gyrfa mewn Newyddiaduraeth a’r Diwydiannau Cyfryngau Creadigol.

Llwybrau:

Diploma Lefel 5 NCTJ mewn Newyddiaduraeth
*Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
*Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael

Gofynion Mynediad:

Safon dda o Rifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU A*-C mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2.

Pwyntiau Pwysig:

Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn