Gwresogi ac Awyru

Prentisiaeth mewn Gwresogi ac Awyru

Lefel(au): Lefel 2

Hyd: 36-48 mis

Lleoliad: Canol y Ddinas, Heol Dumballs ac yn y Gweithle

Ynglŷn â’r Cwrs:

Y Brentisiaeth Crefftwr Gwresogi ac Awyru yw Fframwaith Prentisiaethau Cymru ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru. Mae’n paratoi prentisiaid ar gyfer gweithio’n ddiogel ac yn gymwys ar systemau gwresogi ac awyru mewn amgylcheddau diwydiannol, amgylcheddau masnachol ac amgylcheddau preswyl mawr.
Mae’r rhaglen yn meithrin cymhwysedd galwedigaethol sy’n cyd-fynd â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwresogi ac Awyru. Bydd y prentisiaid yn meithrin sgiliau yn y canlynol:
Gosod, cynnal a chadw, comisiynu, a phrofi systemau gwresogi ac awyru.
Gweithio gyda phibellwaith, systemau awyru a systemau symud aer.
Rhoi safonau diogelwch y diwydiant ar waith, yn cynnwys tasgau lle mae diogelwch yn hollbwysig.
Deall y sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu ehangach a’i arferion yng Nghymru (unedau craidd).
Bydd modd defnyddio’r cymhwyster ledled y DU ac mae’n anelu at ddiwallu anghenion amgylcheddau gwasanaethau adeiladu modern.

Llwybrau:

Cymhwyster Cymhwysedd Galwedigaethol
Rhaid cyflawni’r Cymhwyster EAL Lefel 3 BSE – Crefftwr Gwresogi ac Awyru yn y brentisiaeth.
Asesir y cymhwyster trwy gyfrwng tasgau ymarferol, prawf diogelwch hollbwysig, a phrosiect a osodir gan y cyflogwr.
Cymhwyster Gwybodaeth Dechnegol
Mae’n ymdrin â’r theori sylfaenol sy’n perthyn i wresogi, awyru, a systemau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu. Hefyd, bydd yn ofynnol i’r prentis gwblhau’r cyrsiau ychwanegol a ganlyn fel rhan o’r Brentisiaeth Gwresogi ac Awyru: Rheoleiddio Dŵr, Pympiau Awyr, Dŵr Poeth Di-fent, Casglu Dŵr Glaw ac Ymwybyddiaeth o Nwy.
*Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 / *Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 / *Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 – Perthnasol os nad oes procsis ar gael

Gofynion Mynediad:

Mae’r Brentisiaeth hon yn addas i’r canlynol:
Dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio yn y maes masnach ar y pryd
Dysgwyr sydd wedi pasio’r holl asesiadau mynediad penodol sy’n berthnasol i’r sector (pan fo’n briodol)
Dysgwyr sydd wedi cyflawni un neu fwy o’r canlynol (neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig):
Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Lefel 2
Cymhwyster Camu Ymlaen mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu, Lefel 2*
Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
TGAU gradd A-C ym mhob un o’r canlynol: pwnc cyfathrebu, mathemateg, a naill ai pwnc yn y maes gwyddoniaeth neu dechnoleg (e.e. Dylunio a Thechnoleg, Electroneg ac ati)
TGAU gradd A-C yn Yr Amgylchedd Adeiledig, TGAU CBAC
Cymhwyster Lefel 2 ‘Mynediad at Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu’ a/neu gymwysterau cyfwerth*
Gellir ystyried y cymhwyster hwn fel procsi ar gyfer y cymwysterau Sylfaen a Chraidd yn ystod y cyfnod pontio a fydd ar waith tan 2023.

Pwyntiau Pwysig:

Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn