Lefel(au): Lefel 2
Hyd: 15 mis
Lleoliad: Yn y gwaith
Ynglŷn â’r Cwrs:
Mae’r brentisiaeth hon yn addas i unigolion sy’n gweithio gyda banciau, cymdeithasau adeiladu, sefydliadau yswiriant, gwasanaethau gweinyddu busnes neu wasanaethau i gwsmeriaid, lle mae eu rôl yn cynnwys darparu gwasanaethau ariannol naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Bydd y brentisiaeth yn rhoi cyfle i unigolion gael cydnabod eu cymhwysedd a’u profiad. Mae’r cymhwyster Darparu Gwasanaethau Ariannol yn rhoi dull hyblyg ar waith ac mae’n galluogi unigolion i ddewis unedau dewisol ac unedau ychwanegol a fydd yn diwallu gofynion eu rôl.
Llwybrau:
Tystysgrif City & Guilds Lefel 2 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol – mae’r llwybrau canlynol ar gael
Lefel 2: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Yswiriant Cyffredinol
Lefel 2: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Bancio
Lefel 2: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Bywyd, Pensiynau a Buddsoddiadau
Lefel 2: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Cyfleusterau Cyllido a Chredyd
Lefel 2: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Gweinyddu ar gyfer Cyfryngwyr Morgeisi a/neu Gynllunio Ariannol
Lefel 2: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Gweithrediadau Buddsoddi
Lefel 2: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Taliadau Cwsmeriaid am Gynhyrchion a Gwasanaethau Ariannol
Lefel 2: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Rheoli Credyd a Chasglu Dyledion
Tystysgrif City & Guilds Lefel 2 mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 1
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 1
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
Safon dda o Rifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU D-G mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 1.
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn
Lefel(au): Lefel 23
Hyd: 18 mis
Lleoliad: Yn y gwaith
Ynglŷn â’r Cwrs:
Mae’r brentisiaeth hon yn addas i unigolion sy’n gweithio mewn banciau, cymdeithasau adeiladu, darparwyr morgeisi, asiantaethau casglu dyledion, darparwyr cyllid/hurbwrcasu a sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i gwsmeriaid, lle mae’r rôl yn cynnwys darparu, goruchwylio neu reoli gwasanaethau ariannol naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer ymgeiswyr sy’n gyfrifol am oruchwylio/rheoli unigolion neu ddelio â phrosesau cymhleth mewn gwasanaethau ariannol.
Llwybrau:
Tystysgrif City & Guilds Lefel 3 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol – mae’r llwybrau canlynol ar gael
Lefel 3: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Yswiriant Cyffredinol
Lefel 3: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Bancio
Lefel 3: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Bywyd, Pensiynau a Buddsoddiadau
Lefel 3: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Cyfleusterau Cyllido a Chredyd
Lefel 3: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Gweinyddu ar gyfer Cyfryngwyr Morgeisi a/neu Gynllunio Ariannol
Lefel 3: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Gweithrediadau Buddsoddi
Lefel 3: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Taliadau Cwsmeriaid am Gynhyrchion a Gwasanaethau Ariannol
Lefel 3: Darparu Gwasanaethau Ariannol – Rheoli Credyd a Chasglu Dyledion
Tystysgrif City & Guilds Lefel 3 mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
*City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
Safon dda o Rifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU A*-C mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 1.
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn