Lefel(au): Lefel 3
Hyd: 42 mis
Lleoliad: Yn y Gweithle
Ynglŷn â’r Cwrs:
Mae’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg yn rhan o Fframwaith Prentisiaethau Cymru FR05072, a ddyroddir gan Enginuity. Mae’n paratoi prentisiaid ar gyfer rolau medrus (lefel technegydd) mewn peirianneg a gweithgynhyrchu, yn cynnwys y sector awyrofod.
Bwriedir i’r llwybr feithrin yr wybodaeth dechnegol, y sgiliau ymarferol a’r cymwyseddau sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithio’n ddiogel ac yn effeithiol mewn amgylcheddau peirianneg awyrofod, megis:
• Gweithgynhyrchu awyrennau
• Cynhyrchu cydrannau awyrofod
• Saernïo, cydosod a gosod
• Cynorthwyo i gynnal a chadw ac archwilio
• Gweithgynhyrchu cynhyrchion cyfansawdd a strwythurau awyrennau
Mae’r llwybr hwn yn addas i brentisiaid:
• sy’n gweithio mewn amgylcheddau gweithgynhyrchu awyrofod neu beirianneg awyrofod
• sy’n cynorthwyo i weithgynhyrchu, cydosod neu gynnal a chadw cydrannau awyrennau
• sydd angen arddangos cymhwysedd peirianneg Lefel 3 (crefft neu dechnegydd)
• sy’n dymuno camu ymlaen i rolau mwy technegol neu oruchwyliol yn y maes awyrofod
Llwybrau:
Diploma EAL Lefel 2 mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg
Diploma Estynedig NVQ EAL Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrenegol
• Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, Lefel 2
• Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol, Lefel 2
• Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
Mae Prentisiaeth Lefel 3 yn addas i ymgeiswyr sy’n meddu ar bum TGAU gradd C (gradd 4 newydd) neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc Gwyddonol
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn