Dadansoddwr Seiber

Prentisiaeth Dadansoddwr Seiberddiogelwch

Lefel(au): Lefel 3

Hyd: 24 mis (yn unol â’r blynyddoedd academaidd)

Lleoliad: Campws y Barri (1 diwrnod yr wythnos)

Ynglŷn â’r Cwrs:

Lluniwyd y brentisiaeth gyda chyflogwyr yng Nghymru er mwyn rhoi i’r ymgeiswyr y sgiliau TG sylfaenol y byddant eu hangen i allu cynorthwyo i reoli gweithrediadau beunyddiol yn ymwneud â chaledwedd, meddalwedd, a rheoli risgiau a allai effeithio ar gyfanrwydd a chywirdeb asedau data. Bydd yr ymgeiswyr yn ennill sgiliau TG hanfodol a phrofiad ymarferol a fydd yn eu galluogi i ddatblygu eu gyrfa ar draws amrywiaeth eang o sectorau diwydiant.

Llwybrau:

Diploma BTEC Pearson Lefel 3 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer TG (Llwybr Dadansoddwr Seiberddiogelwch)
Tystysgrif Estynedig Genedlaethol BTEC Pearson Lefel 3 mewn Cyfrifiadura
*Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
*Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael

Gofynion Mynediad:

Safon dda o Rifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU A*-C mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2.

Pwyntiau Pwysig:

Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn

Prentisiaeth Uwch Dadansoddwr Seiberddiogelwch

Lefel(au): Lefel 4

Hyd: 24 mis (yn unol â’r blynyddoedd academaidd)

Lleoliad: Canol y Ddinas (1 diwrnod yr wythnos)

Ynglŷn â’r Cwrs:

Lluniwyd y brentisiaeth gyda chyflogwyr yng Nghymru er mwyn rhoi i’r ymgeiswyr y sgiliau seiberddiogelwch sylfaenol y byddant eu hangen i allu cyflawni eu rôl. Bydd yr ymgeiswyr yn ennill llwybr galwedigaethol cadarn ar gyfer diwallu’r angen am sgiliau seiberddiogelwch yn y gweithle. Gellir defnyddio’r brentisiaeth uwch i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae rolau addas yn cynnwys rolau is ac uwch mewn diogelwch rhwydweithiau, sicrhau gwybodaeth, datblygu systemau diogel a phrofion hacio. Mae’r brentisiaeth uwch yn addas ar gyfer ymgeiswyr â phrofiad mewn seiberddiogelwch neu’r rhai sydd wedi cyflawni cymhwyster lefel 3 ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth.

Llwybrau:

Diploma BTEC Pearson Lefel 4 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer TG a Dadansoddwr Seiberddiogelwch (Cymru)
Tystysgrif Genedlaethol Pearson Lefel 4 mewn Cyfrifiadura (HNC)