Lefel(au): Lefel 2
Hyd: 15 mis
Lleoliad: Yn y gwaith
Ynglŷn â’r Cwrs:
Bydd y Brentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes yn helpu i feithrin a gwella sgiliau ymarferol prentisiaid, yn ogystal â’u sgiliau o ran gweithio mewn tîm. Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn rolau cymorth gweinyddol ac sydd angen rhywfaint o oruchwyliaeth ond sydd hefyd â chwmpas i weithio gydag ymreolaeth.
Llwybrau:
Diploma City & Guilds Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 1
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 1
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, Lefel 1
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
16-24 oed, neu 25+ oed ac o fewn 12 mis i ddechrau mewn rôl
Lefel dda o Rifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU D-G mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 1.
Pwyntiau Pwysig:
Ni fydd graddedigion yn gymwys ar gyfer y brentisiaeth hon
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn
Lefel(au): Lefel 3
Hyd: 15 mis
Lleoliad: Yn y gwaith
Ynglŷn â’r Cwrs:
Bydd y Brentisiaeth Gweinyddu Busnes yn cynnig amrywiaeth eang o sgiliau gweinyddu i’r prentisiaid, megis rheoli gwybodaeth, cydlynu digwyddiadau, dadansoddi systemau a rheoli prosiectau. Anelir y brentisiaeth hon at unigolion sy’n gweithio mewn swyddfeydd mewn rolau ag elfen o ymreolaeth. Mae’r Diploma Lefel 3 ar gyfer unigolion sydd, o bosibl, yn meddu ar gymhwyster lefel 2 a/neu sy’n awyddus i wella mwy fyth ar eu sgiliau gweinyddu a goruchwylio.
Llwybrau:
Diploma City & Guilds Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
16-24 oed, neu 25+ oed ac o fewn 12 mis i ddechrau mewn rôl
Lefel dda o Rifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU A*-C mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2.
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn