Lefel(au): Lefel 2
Hyd: 12 mis (yn unol â’r flwyddyn academaidd)
Lleoliad: Campws y Barri (1 diwrnod yr wythnos)
Ynglŷn â’r Cwrs:
Mae’r Brentisiaeth Sylfaen mewn Cyfrifyddiaeth yn cynnig sylfaen gadarn mewn gweinyddu cyllid a sgiliau cyfrifyddu craidd, yn cynnwys cofnodi dwbl, costio sylfaenol, a llyfrau gwerthiant a phryniadau. Hefyd, bydd y prentisiaid yn dysgu am fusnes sy’n gysylltiedig â chyfrifyddiaeth a sgiliau personol, a byddant yn cael eu cyflwyno i’r pedair thema allweddol a ymgorfforir yn y cymhwyster, sef: moeseg, technoleg, cyfathrebu a chynaliadwyedd.
Llwybrau:
Tystysgrif AAT Lefel 2 mewn Cyfrifyddu
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 1
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 1
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
Safon dda mewn Rhifedd, Llythrennedd, a Llythrennedd Digidol
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU D-G mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 1.
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn
Lefel(au): Lefel 3
Hyd: 12 mis (yn unol â’r flwyddyn academaidd)
Lleoliad: Campws y Barri (1 diwrnod yr wythnos)
Ynglŷn â’r Cwrs:
Mae’r Brentisiaeth mewn Cyfrifyddiaeth yn cynnig hyfforddiant technegol mewn cyfrifyddu ac mae’n ddelfrydol ar gyfer pawb sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifyddiaeth neu gyllid. Mae’r Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifyddu yn cwmpasu ystod o dasgau cyfrifyddu hanfodol a chymhleth, yn cynnwys cadw cofnodion cyfrif costau a pharatoi adroddiadau a datganiadau.
Llwybrau:
Diploma AAT Lefel 3 mewn Cyfrifyddu
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Lefel 2
• Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Lefel 2
Perthnasol os nad oes procsis ar gael
Gofynion Mynediad:
Tystysgrif AAT Lefel 2 mewn Cyfrifyddu neu gymhwyster tebyg
Bydd dysgwyr nad ydynt yn meddu ar TGAU A*-C mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2.
Pwyntiau Pwysig:
Rhaid ichi gael eich cyflogi am 16 awr neu fwy bob wythnos mewn rôl addas
Rhaid ichi fyw yng Nghymru neu weithio 51% o’ch contract yng Nghymru
Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn
Lefel(au): Lefel 4
Hyd: 16 mis (yn unol â’r flwyddyn academaidd)
Blwyddyn 1: Medi – Mehefin
Blwyddyn 2: Medi – Ionawr
Lleoliad: Hybrid/Canol Dinas Caerdydd (1 diwrnod yr wythnos) gyda sesiynau ar-lein trwy gyfrwng Mindful Education
Ynglŷn â’r Cwrs:
Bydd y Brentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Cyfrifyddiaeth yn gwella’r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y Brentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfrifyddiaeth. Mae’r Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifyddu Proffesiynol yn cwmpasu cyfrifyddu lefel uchel, ynghyd â thasgau a phynciau cyllid. Hefyd, bydd y dysgwyr yn dysgu am feysydd arbenigol, megis treth, archwilio, rheoli credyd a debyd, rheoli arian parod a rheolaeth ariannol.
Llwybrau:
Diploma AAT Lefel 4 mewn Cyfrifyddu Proffesiynol