Ein Tîm
Mae gan CCAF Dîm Dysgu Cynhwysol ymroddedig sy’n darparu cymorth sy’n canolbwyntio ar y person i ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd y tîm yn gweithio’n agos gyda chi a’ch tîm addysgu i sicrhau bod y gefnogaeth a ddarperir yn cael ei dylunio i fodloni’ch anghenion a datblygu’ch annibyniaeth.
Rhoi gwybod i ni am eich anghenion cymorth:
Os ydych yn bwriadu mynd i’r coleg, mae’n bwysig iawn eich bod yn ein hysbysu ynglŷn â’ch anghenion cymorth ac yn anfon tystiolaeth o’ch anghenion cymorth a/neu dystiolaeth feddygol cyn gynted â phosibl cyn eich cyfweliad. Mae hyn oherwydd ein bod eisiau sicrhau y gallwn fodloni eich anghenion cymorth cyn eich bod yn ymuno ag un o’n cyrsiau. Mae modd i chi wneud hyn ar eich ffurflen gais, yn ystod noson agored neu drwy anfon e-bost atom ar InclusiveLearning@cavc.ac.uk.
Darpariaeth dysgu ychwanegol
Mae gan CCAF gynnig cynhwysol o ddarpariaeth cymorth dysgu ychwanegol ar gyfer dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol. Am fwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael, gweler ein cynnig ULP/ALP.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i’w chael yma:
Dolenni defnyddiol
Gweler y dolenni a dogfennau isod am ragor o wybodaeth:
Llywodraeth Cymru - Gwybodaeth Bwysig
System Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Canllaw i Rieni
Cyngor Caerdydd - Gwybodaeth bwysig
Yn ogystal, mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o ganllawiau defnyddiol isod y mae modd eu lawrlwytho:
Cyngor Caerdydd - Cyngor a Llinell Gymorth ADY
Cyngor Caerdydd - Canllaw i Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU)
Cyngor Caerdydd - Canllaw i Gyfarfodydd sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Cyngor Caerdydd - Canllaw i’r Broses ADY ar gyfer Ysgolion
Cyngor Caerdydd - Rhestr Cysylltiadau Defnyddiol
Cyngor Bro Morgannwg - Gwybodaeth bwysig
Ymholiadau pellach
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, anfonwch e-bost atom ar inclusivelearning@cavc.ac.uk.