Ar gyfer yr holl gyrsiau – boed yn rhai sy’n cychwyn eu hyfforddiant neu’n weithwyr proffesiynol y diwydiant, cliciwch yma i weld ein cyrsiau.
Fel darparwr blaenllaw o Rhan66 yn y DU, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Fel coleg yng nghanol Caerdydd a Bro Morgannwg, mae CCAF yn cydnabod yr effaith y mae teithiau myfyrwyr a staff yn ei chael ar yr amgylchedd.
Rydym yn annog staff, myfyrwyr ac ymwelwyr i deithio’n llesol i ac o gampysau lle bo modd.
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT)
Parc Busnes Maes Awyr Caerdydd Y
Rhŵs
Bro Morgannwg
CF62 3DP.
Rhif Ffôn: 01446 711447
What3words - ///exonerate.feasted.searcher
Dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i gefnogi eich taith i’r campws hwn.
Y CAVC Rider
Gwasanaeth bws rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr i gyd yw'r CAVC Rider, sy'n teithio rhwng ein campysau yng Nghaerdydd a'r Fro, ac yn dechrau ar 9fed o Fedi 2024.
Nodwch os gwelwch yn dda, bydd dysgwyr yn cael eu troi i ffwrdd os ydynt yn cael eu dal yn defnyddio hen fathodyn 2023-24, felly sicrhewch eich bod yn casglu bathodyn diweddar 2024-25 gan Wasanaethau Myfyrwyr er mwyn defnyddio'r CAVC Rider.
Clicwch yma i lawrlwytho'r amserlen diweddaraf.
Mae cyfleusterau storio beiciau diogel ar gael.
Llwybr bysiau: CAVC Rider. Mae bws gwennol 905 Adventure Travel yn rhedeg bob awr rhwng Maes Awyr Caerdydd a Gorsaf y Rhws gyda chysylltiadau rheilffordd i Gaerdydd. Mae'r 304 yn rhedeg bob awr rhwng Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.
Parcio: Digon o lefydd parcio i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr. Bydd angen i chi fewnbynnu cod wrth adael y campws, sydd ar gael gan y dderbynfa.
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT),
Parc Busnes Maes Awyr Caerdydd,
Y Rhws,
Bro Morgannwg,
CF62 3DP