Y campws arbennig hwn yw ein canolfan bwrpasol ar gyfer Chwaraeon. Wedi’i lleoli yn Lecwydd, Caerdydd, mae’n cynnwys trac a stadiwm athletau o faint llawn, cromen chwaraeon o’r radd flaenaf yn cynnwys maes chwarae 3G, maes chwarae 3G awyr agored a meysydd chwarae glaswellt aml-gyfrwng. Y tu mewn mae’n cynnwys campfa fawr, siop goffi ac ystod eang o ystafelloedd addysgu ar gyfer ein cyrsiau chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus.
Mae cyfleusterau ar y campws hwn ar gael i’w llogi gan y cyhoedd drwy ein partneriaid, House of Sport, ar www.cardiffcityhouseofsport.co.uk
Fel coleg yng nghanol Caerdydd a Bro Morgannwg, mae CCAF yn cydnabod yr effaith y mae teithiau myfyrwyr a staff yn ei chael ar yr amgylchedd.
Rydym yn annog staff, myfyrwyr ac ymwelwyr i deithio’n llesol i ac o gampysau lle bo modd.
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd Heol Lecwydd,
Caerdydd,
CF11 8AZ
What3words - ///tags.reach.door
Dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i gefnogi eich taith i’r campws hwn.
Y CAVC Rider
Gwasanaeth bws rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr i gyd yw'r CAVC Rider, sy'n teithio rhwng ein campysau yng Nghaerdydd a'r Fro, ac yn dechrau ar 9fed o Fedi 2024.
Nodwch os gwelwch yn dda, bydd dysgwyr yn cael eu troi i ffwrdd os ydynt yn cael eu dal yn defnyddio hen fathodyn 2023-24, felly sicrhewch eich bod yn casglu bathodyn diweddar 2024-25 gan Wasanaethau Myfyrwyr er mwyn defnyddio'r CAVC Rider.
Clicwch yma i lawrlwytho'r amserlen diweddaraf.
Mae cyfleusterau storio beiciau diogel ar gael.
Gorsaf drenau agosaf: Grangetown
Llwybr bysiau: CAVC Rider. Mae gwasanaeth Bws Caerdydd 95 yn stopio yn y parc manwerthu gyferbyn â'r Campws. Mae gwasanaethau 1, 2 a 4 yn mynd i Sloper Road, dim ond taith gerdded fer o'r Campws.
Parcio: Digon o lefydd parcio i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr. Bydd angen i chi fewnbynnu rhif cofrestru eich car yn y dderbynfa bob tro y byddwch yn parcio i osgoi dirwy.
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd,
Heol Lecwydd,
Caerdydd,
CF11 8AZ