Campws Canol y Ddinas CAVC
Ynghylch Campws Canol y Ddinas CAVC
Mae’r campws mawr hwn, sy’n daith gerdded ychydig funudau o ganol dinas Caerdydd a Gorsaf Drên Caerdydd Canolog, yn cynnwys chwe safle gwahanol.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am barcio ar ein Campws Canol y Ddinas.
Cyfeiriad
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE
Rhif Ffôn: 02920 250 250
Campws Canol y Ddinas CAVC
Mae ein hadeilad adnabyddus werth £45m wrth galon y campws hwn. Wedi’i agor yn 2015 gan y Prif Weinidog, mae’r adeilad enfawr yn cynnwys ystod eang o gyfleusterau arbenigol, o Theatr Michael Sheen sydd â 100 sedd, y tŷ bwyta enwog ar y pumed llawr sef Y Dosbarth, ein salon a’n sba unigryw yn y ddinas a dros 230 o ardaloedd addysgu o’r radd flaenaf.
Un Canal Parade CAVC
Mae’r adeilad hwn, sydd drws nesaf i’n prif adeilad Campws Canol y Ddinas, yn cynnwys ein Canolfan Fusnes CAVC – ardal bwrpasol sydd ar gael i’w llogi ar gyfer hyfforddiant a digwyddiadau busnes.
Mae hefyd yn cynnwys ystod enfawr o ddarpariaeth Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).
Canolfan Fodurol CAVC
Mae Canolfan Fodurol CAVC yn ardal bwrpasol ar gyfer ein cyrsiau modurol poblogaidd i unigolion a chyflogwyr. Mae’n cynnwys gweithdai cerbydau ysgafn a thrwm a gweithdai gwaith corff cerbyd a bythau chwistrellu o’r radd flaenaf. Mae wedi’i lleoli wrth ymyl prif adeilad ein campws.
Canolfan Gwasanaethau Adeiladu CAVC
Gyferbyn â phrif ddrysau’r prif adeilad Campws Canol y Ddinas mae Canolfan Gwasanaethau Adeiladu CAVC. Yr adeilad hwn yw canolfan bwrpasol canol y ddinas ar gyfer hyfforddiant trydanol, plymio, teilsio a hyfforddiant masnach gwasanaethau adeiladu eraill.
Canolfan Hyfforddiant Adeiladwaith CAVC
Rhyw 5 munud o brif adeilad y campws wrth gerdded, tuag at Fae Caerdydd, mae ein canolfan bwrpasol canol y ddinas ar gyfer masnachau adeiladwaith gan gynnwys gwaith brics, gwaith coed a saernïaeth.
Academi Gelfyddydau CAVC
Ein canolfan bwrpasol newydd sbon ar gyfer cyrsiau celf, dylunio a chreadigol - gyda gofod stiwdio helaeth a chyfleusterau arbenigol.
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE