Campws y Barri CAVC

Ein campws sefydledig i’r Fro

Am Gampws y Barri

Mae’r campws yma wedi ennill ei blwyf ac wedi bod yn ganolfan boblogaidd i’r Coleg ers dros 50 o flynyddoedd. Mae’r safle mawr yma’n cynnwys amrywiaeth enfawr o gyfleusterau, gan gynnwys bwyty The Glamorgan Suite – Ystafell Morgannwg; salon a sba academi urbasba; adeiladwaith, gwasanaethau adeiladu a gweithdai moduro; llawr penodol i gelf a dylunio ac amrywiaeth eang o fannau addysgu a dysgu. Mae ffreutur, siop a siop goffi brysur ar y safle i ddysgwyr hefyd.

Fel coleg yng nghanol Caerdydd a Bro Morgannwg, mae CCAF yn cydnabod yr effaith y mae teithiau myfyrwyr a staff yn ei chael ar yr amgylchedd.

Rydym yn annog staff, myfyrwyr ac ymwelwyr i deithio’n llesol i ac o gampysau lle bo modd.

Cyfeiriad

Coleg Caerdydd a'r Fro
Campws y Barri
Bro Morgannwg
CF62 8YJ 

Rhif Ffôn: 01446 725000

What3words - ///tens.jolly.field

Dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i gefnogi eich taith i’r campws hwn.

Y CAVC Rider

Gwasanaeth bws rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr i gyd yw'r CAVC Rider, sy'n teithio rhwng ein campysau yng Nghaerdydd a'r Fro, ac yn dechrau ar 9fed o Fedi 2024. 

Nodwch os gwelwch yn dda, bydd dysgwyr yn cael eu troi i ffwrdd os ydynt yn cael eu dal yn defnyddio hen fathodyn 2023-24, felly sicrhewch eich bod yn casglu bathodyn diweddar 2024-25 gan Wasanaethau Myfyrwyr er mwyn defnyddio'r CAVC Rider.

Clicwch yma i lawrlwytho'r amserlen diweddaraf. 

Mae cyfleusterau storio beiciau diogel ar gael.

Gorsaf drenau agosaf: Y Barri, tua 30 munud ar droed o'r campws.

Llwybr bysiau: CAVC Rider. Mae gwasanaeth Bws Caerdydd 96 a B2 yn stopio ger y Campws. Mae B1 yn stopio ar ben Heol Colcot.

Parcio: Digon o lefydd parcio i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro
Y Barri,
Bro Morgannwg
CF62 8YJ