Cyfarfod … Samir

"

Dechreuais fy nhaith CCAF yn 16 oed fel dysgwr ac yna, yn 17 oed, cynigiodd y coleg i mi weithio fel technegydd asiantaeth am ychydig. Yna, dechreuais fel technegydd rhan amser yn Heol Colcot yn y Barri, cyn cael cynnig swydd lawn amser yn y pen draw. Ar ôl gwneud hyn am ychydig o flynyddoedd, bu i mi gwblhau fy nghwrs TAR a dod yn hyfforddwr. Yna, es ymlaen i fod yn ddarlithydd masnachol modurol. Ar ôl hyn, datblygais wedyn i fod yn Arweinydd Rhagoriaeth, a dyma fy swydd ar hyn o bryd. Prif ran fy swydd yw cefnogi aelodau o staff gydag addysgu a dysgu gan fod popeth rydym yn ei wneud yn seiliedig ar addysgu a dysgu; boed hynny'n cynnig sesiynau pwrpasol iddynt, DPP i'r coleg cyfan, cynlluniau gweithredu, hyfforddiant, neu unrhyw beth i gefnogi'n haelodau o staff i fod y gorau posibl.

Yn sicr, uchafbwynt fy swydd yw'r bobl rwy'n gweithio â hwy - mae gennym gymuned CCAF dda iawn. Mae'n hynod amrywiol a chynhwysol a dyna yw un o'r pethau gorau am y lle hwn mae'n debyg. Un o werthoedd y cwmni yw bod yn gynhwysol, sy'n beth enfawr i mi gan ei fod yn cynnwys mannau i weddïo a chaniatáu i chi fod yn chi, yn rhydd rhag cael eich barnu. Mae cefnogaeth i'w chael hefyd - yn ddiweddar, dywedodd aelod o staff wrtha i "Hei, Samir, mae'n amser gweddi, fe gymera i dy wers am ddau funud, cer i weddïo". Waw, roedd hyn yn anhygoel - mae'r pethau bychain hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

Un o'r cyfleoedd mwyaf rwy'n mwynhau gweithio arno ar hyn o bryd yw popeth rydym yn ei wneud yn y grŵp gwrth-hiliaeth yn y coleg - i newid y modd y gwneir pethau a helpu'r coleg i ddod yn sefydliad gwrth-hiliol er budd pob dysgwr ac aelod o staff.

"