Cyfarfod … Richard

"

Yn ddi-os, mae fy siwrnai yn y coleg wedi bod yn anhygoel. Rydw i wedi bod yn y coleg bellach ers dros 7 mlynedd. Dechreuais fel rheolwr bwyty cynorthwyol masnachol. Yn ystod fy amser yn y coleg, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gamu ymlaen i rôl uwch-ddarlithydd, ac yn ddiweddar cefais fy nyrchafu’n Ddirprwy Bennaeth yr Adran Gwallt, Harddwch, Lletygarwch ac Arlwyo. Dyma gyfnod cynhyrchiol iawn a arweiniodd at gyfleoedd lu.

Rydw i wedi cael fy nghydnabod a’m gwobrwyo sawl gwaith gan y coleg am fy uchelgais a’m gwaith caled. Rhoddodd y coleg gyfle imi gwblhau fy nghymhwyster TAR a chamu ymlaen i faes sydd wastad wedi bod yn uchelgais bwysig imi. Rydw i wedi cael cyfle i wylio myfyrwyr yn prifio a’u gweld yn cynrychioli eu gwlad ar lwyfan sgiliau’r byd mewn diwydiant rydw i mor danbaid drosto. Rydw i wedi cael cyfle i fynd â myfyrwyr ar nifer o dripiau o amgylch y byd, gan eu haddysgu am wahanol ddiwylliannau mewn ffordd mor ddifyr.

Un o’m hoff rannau o’r swydd yw gallu bod yn fodel rôl i gynifer o ddysgwyr sy’n awyddus i ddechrau eu siwrnai yn y byd lletygarwch ac arlwyo – o brentisiaid i oedolion sy’n ddysgwyr – gan eu gwylio’n ffynnu a chan roi cyfle iddynt ddatblygu gyrfa mewn diwydiant mor amlbwrpas ac uchelgeisiol. Ond credaf mai’r pwynt pwysicaf i’w grybwyll yw’r ffaith fy mod wedi cael cefnogaeth ac ymddiriedaeth ddihafal gan fy rheolwr llinell – nid oes geiriau a all gyfleu pa mor ddiolchgar ydw i am bopeth a wnaeth imi. Yn sgil y cymorth hwn, bu fy siwrnai yn CCAF yn gwbl drawsnewidiol.

Rydw i wedi cwblhau fy nghymhwyster TAR yn y coleg ac rydw i bellach yn ysgwyddo swydd academaidd, a hefyd rydw i wedi cael fy nyrchafu’n Ddirprwy Bennaeth yr Adran. Cefais y fraint o gymryd rhan mewn tripiau ledled y byd, gan ddefnyddio fy mhrofiad a’m hangerdd fel llwyfan i ddatblygu Talent newydd yn y diwydiant. Rydw i wedi cyflawni llawer iawn, a gwn y gallaf barhau i ddatblygu a ffynnu yn y coleg a gwireddu unrhyw uchelgais sydd gennyf.

"