Rydw i wedi gweithio mewn sawl rôl a maes gwahanol yn CCAF ers mis Mawrth 2006, pan ymunais yn 16 oed (bron i 19 mlynedd yn ôl!). Mae hyn yn arwydd o’r ymdeimlad o ddiogelwch, perthyn a bodlonrwydd sydd gennyf yn fy ngwaith yn CCAF. Dechreuais ar brentisiaeth gyda’r gyfadran Dysgu Seiliedig ar Waith ar ôl sylweddoli bod prentisiaeth yn fwy addas i’m hamgylchiadau na chwrs coleg addysg bellach. Ers hynny, rydw i wedi cael cyfleoedd lu i ddatblygu’n broffesiynol (ac yn bersonol) a chamu ymlaen at y rôl sydd gennyf heddiw, sef Rheolwr Busnes y Cwricwlwm – Technoleg a Chwaraeon. Mae fy mywyd personol wedi newid yn barhaus drwy gydol y cyfnod hwn – dechreuais weithio pan oeddwn yn 16 oed a deuthum yn fam sengl bedair blynedd yn ddiweddarach, felly rydw i wedi wynebu mwy nag un her.
Ond rydw i wedi cael cymorth a hyblygrwydd aruthrol gan y cwmni (a chan reolwr llinell pob rôl) er mwyn fy ngalluogi i barhau i weithio a pharhau hefyd i ddilyn addysg gysylltiedig â gwaith. Heb y cymorth hwn, ni fuaswn yn fy rôl bresennol heddiw.
Ffactor personol enfawr i mi yw’r cyfle a gefais i ddatblygu a rhagori’n broffesiynol, yn ogystal â chael cyfleoedd i ddyrchafu. Ffactor pwysig arall yw cael y pleser o weithio gyda gweithlu amrywiol a chefnogol, hyd yn oed trwy adegau dyrys fel COVID. Rydw i wedi creu cynifer o gydberthnasau gwych, cadarnhaol a llawn ymddiriedaeth gyda’m cydweithwyr. Hefyd, mae fy rôl bresennol yn llwyddo i’m cymell ac i ennyn fy niddordeb; ac fel y gŵyr fy nghydweithwyr yn y gyfadran Technoleg a Chwaraeon, mae pob diwrnod yn ddiddorol ac yn llawn prysurdeb!
A minnau wedi gweithio cyhyd yn CCAF, rydw i wedi cael cyfle (trwy gyfrwng cyfleoedd datblygu staff) i gyflawni Prentisiaeth Uwch Lefel 2, Lefel 3 a Lefel 4 mewn Busnes/Rheoli, yn ogystal â Gradd Sylfaen a BA (Anrh) ychwanegol mewn Astudiaethau Busnes. Hefyd, rydw i wedi cael cynnig mynd ar nifer o raglenni hyfforddi eraill, er enghraifft cyrsiau sydd ar ddod yn ymwneud â Hyfforddi, Cymorth Cyntaf yn y Gwaith ac Ymchwiliadau ACAS. Mae’r cyfleoedd datblygu hyn wedi fy nghynorthwyo (ac yn parhau i’m cynorthwyo) gyda’r sgiliau, y cymwyseddau a’r wybodaeth rydw i eu hangen i ragori yn fy rôl bresennol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i gamu ymlaen yn barhaus.