Ar hyn o bryd, rydw i yn fy chweched flwyddyn yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Dechreuais fy siwrnai fel darlithydd Gofal Plant ac rydw i wedi cael y fraint o fod yn rhan o’r gymuned amrywiol yng Nghaerdydd, gan wneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy eu helpu i ddod o hyd i waith a’u helpu i ddatblygu yn eu siwrnai broffesiynol ac addysgol. Rydw i wedi cyfrannu at newidiadau polisi ehangach yn y coleg, gan weithio ar grwpiau ffocws, gwaith cynllunio strategol a mentrau trawsgolegol. Yn fwy diweddar, rydw i wedi camu ymlaen yn fy ngyrfa, gan ysgwyddo rôl newydd fel Dirprwy Bennaeth Iechyd a Gofal. Yn sgil fy nghyfrifoldebau cynyddol a’m hangerdd dros gynorthwyo eraill ac arwain trwy newid, rydw i wedi cael cyfle i ragori’n broffesiynol o fewn y sefydliad.
Mae’r coleg yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd DPP proffesiynol, gan alluogi’r gweithwyr i gael ymreolaeth dros feithrin eu diddordebau personol eu hunain a llywio’u proffesiynoldeb trwy lensys cymorth ac arweiniad. Hefyd, mae’r coleg yn cynnig amrywiaeth eang o fuddion allanol – rydym yn cael codiad cyflog blynyddol, cynllun gofal iechyd i gynorthwyo gyda chostau meddygol a chostau iechyd, ac amrywiaeth o wasanaethau llesiant y gall y staff eu defnyddio.
Yr hyn rydw i’n ei fwynhau fwyaf ynglŷn â’m swydd yw’r ffaith fy mod yn gwneud gwahaniaeth i addysg dysgwyr a chyfleoedd gwaith staff. Y gallu i ymateb yn ymarferol i anghenion amrywiol unigolion yn fy adran, a chynnig cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol.
Ar ôl gwneud cais, cefais gynnig cyfleoedd DPP sydd wedi gwella a chyfoethogi fy ngalluoedd proffesiynol; ac yn fwyaf nodedig, cefais fy nyrchafu’n ddiweddar o fewn fy adran, a bellach rydw i’n Ddirprwy Bennaeth Iechyd a Gofal. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ar amryw byd o weithgorau sy’n canolbwyntio ar strategaethau a newid; mae rhai o’r rhain yn cynnwys Addysgu a Dysgu a Thrawsnewid Digidol. Hefyd, rydw i wedi gweithio gyda gweithwyr allanol proffesiynol o’r byd diwydiant i ddatblygu adnoddau digidol sy’n gwella profiad y dysgwyr ac yn esgor ar ddulliau a deunyddiau addysgu mwy amrywiol i holl staff yr adran.
Yn ddiweddar, cefais y fraint o gyflwyno digwyddiad rhwydweithio ledled y wlad, yn cynnwys y corff dyfarnu, lle cefais gyfle i gyfarfod â chydweithwyr ledled Cymru, rhannu arferion da a thrafod agweddau ar gymwysterau er mwyn gwella ansawdd cynnwys penodol a gwella’r modd y caiff y cynnwys hwnnw ei gyflwyno. Hefyd, rydw i wedi arwain cystadlaethau Sgil Cymru, lle llwyddodd ein dysgwyr i ennill medalau sawl gwaith, a chefais y fraint o fynychu seremonïau gwobrwyo a seremonïau cyflwyno medalau yng Nghymru.