Cyfarfod … Gurbausch

"

Mae fy siwrnai yn CCAF wedi bod yn ddifyr ac yn werth chweil – yn llawn heriau ac yn llawn llawenydd o gael cyfarfod â chynifer o bobl anhygoel ar hyd y ffordd. Rydw i wedi bod gyda CCAF ers bron i dair blynedd, gan ddechrau fel darlithydd dan hyfforddiant. Yn ystod y cyfnod hwn, cefais gymorth gan CCAF i gwblhau fy nghymhwyster TAR, gan fy ngalluogi i ddod yn ddarlithydd cymwysedig.

Un o’r pethau mwyaf cadarnhaol ynglŷn â gweithio yn CCAF yw’r amgylchedd cefnogol a chynhwysol. Mae’r coleg yn buddsoddi o ddifrif yn natblygiad proffesiynol ei staff – cefais brofiad uniongyrchol o hyn pan gefais gymorth i gwblhau fy nghymhwyster TAR. 
Hefyd, rydw i’n mwynhau’r cyfle i weithio gyda chriw mor amrywiol o gydweithwyr a myfyrwyr, gan sicrhau bod pob diwrnod yn unigryw ac yn werth chweil. Yr hyn rydw i’n ei drysori fwyaf ynglŷn â’m swydd yw gallu ysbrydoli a chynorthwyo myfyrwyr gyda’u haddysg, gan eu helpu i gyflawni eu nod a gwireddu eu potensial.

Mae gweithio yn CCAF wedi rhoi cyfleoedd anhygoel imi ddatblygu’n broffesiynol. Dechreuais fel darlithydd dan hyfforddiant, ac mae CCAF wedi fy nghynorthwyo trwy ariannu fy nghymhwyster TAR a’m tywys trwyddo, gan fy ngalluogi i ddod yn ddarlithydd cymwysedig. Yn ogystal â chyfoethogi fy sgiliau, mae hyn wedi rhoi’r hyder imi ragori yn fy rôl. Ymhellach, rydw i wedi cael cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus, fel sesiynau hyfforddi a gweithdai, ac mae’r rhain wedi fy helpu i gaboli fy nulliau addysgu a sicrhau fy mod yn gwybod y diweddaraf am fy maes. Mae’r profiadau a gefais wedi bod yn amhrisiadwy o ran llywio fy ngyrfa.

"